Rhaglen ‘Swim Safe’ Ynys Môn yn ennill Gwobr Genedlaethol
Chwefror 20, 2025
Cyflwynwyd y wobr gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Gweithgareddau Dŵr, yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol yng Nghaerdydd.
Mae’r wobr yn dathlu’r effaith mae unigolion a sefydliadau sy’n cyfrannu at ddiogelwch dŵr ac addysg nofio wedi’i chael.
Cafodd Môn Actif ei gydnabod am ei lwyddiant o ran trefnu cyfres o ddigwyddiadau Swim Safe ledled Ynys Môn; gyda thros 500 o blant lleol yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hollbwysig.
Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys sesiynau diddorol, rhyngweithiol fel gweithgareddau diogelwch gyda’r RNLI, padl fyrddio, syrffio, a hyfforddiant Swim Safe ymarferol a damcaniaethol.
Drwy ddefnyddio cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, penodwyd Swyddog Swim Safe ar gyfer yr Ynys. O ganlyniad, mae plant ysgol lleol wedi cael cyfle i feithrin sgiliau allweddol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau diogelwch dŵr am ddim.
Dywedodd Barry Edwards, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Môn Actif, “Roedd digwyddiadau Swim Safe eleni yn llwyddiant ysgubol, ac maent wedi helpu i addysgu pobl ifanc Ynys Môn am bwysigrwydd diogelwch dŵr.”
Ychwanegodd, “Mae cael penodi Swyddog Swim Safe yn hollbwysig ar gyfer sicrhau bod ein cymuned yn ddiogel o amgylch dŵr, ac wedi derbyn y wybodaeth gywir. Rydym yn ddiolchgar i ysgolion lleol am eu cefnogaeth barhaus, ac mae’n braf gweld holl ysgolion Ynys Môn yn cynnig gwersi nofio i’w disgyblion.”
Mae Môn Actif yn parhau i gynnig gwersi nofio i dros 40 o ysgolion ar yr ynys, gan sicrhau bod pob disgybl Cyfnod Allweddol 2 ar Ynys Môn yn cael cyfle i ddysgu sut i nofio.
Dywedodd y Cynghorydd Neville Evans, Deilydd Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol Ynys Môn, “Mae gan Ynys Môn arfordir sy’n 140 milltir o hyd, felly mae’n hollbwysig fod ein plant yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch dŵr. Gwnaeth y plant fwynhau’r sesiynau’n fawr ac rwy’n falch iawn fod y Cyngor Sir, ynghyd â’i bartneriaid, yn chwarae rôl bwysig o ran gwella gwybodaeth am ddiogelwch dŵr.”
Dywedodd Hanna Guise, Rheolwr Cenedlaethol Dysgu yn Nofio Cymru, “Mae Nofio Cymru a Water Safety Wales yn credu y dylai bob plentyn gael y cyfle i ddysgu i nofio a bod yn ddiogel yn y dŵr. Gan mai boddi yw’r ail brif achos o farwolaethau damweiniol mewn plant yng Nghymru, mae’n hanfodol ennyn diddordeb pobl ifanc drwy brofiadau ymarferol. Mae’n braf gweld Swim Safe Cymru yn cael ei gynnig yn effeithiol ar Ynys Môn.”
Mae amrywiaeth o sesiynau wedi’u cynnal yng nghanolfannau hamdden, ar draethau ac ar y Fenai, yn dilyn cydweithio effeithiol rhwng partneriaid allweddol, gan gynnwys: yr RNLI, Swim Safe Cymru, Nofio Cymru, AHNE Ynys Môn, Pellennig, Menter Môn, Gecko ac Edsential.
Mae Môn Actif yn trefnu sesiynau a gweithgareddau pellach yn ystod gwyliau’r ysgol, gyda gweithgareddau Swim Safe hefyd wedi’u trefnu ar gyfer Haf 2025. Bydd y mentrau hyn yn cryfhau’n hymrwymiad i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel o amgylch y dŵr, ac yn y dŵr.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3