Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog newydd

Ionawr 22, 2023

Dr Jennifer Wolowic
Mae arbenigwraig flaenllaw ar y berthynas rhwng deialog a chyfnewid gwybodaeth wedi cychwyn ar ei swydd fel Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth.

Daw’r Dr Jennifer Wolowic i Aberystwyth o Ganolfan Ddeialog Morris J. Wosk ym Mhrifysgol Simon Fraser yn Vancouver, Canada, lle bu’n arwain prosiectau’n ymwneud â democratiaeth, ymgysylltu gyhoeddus a diwylliant.

Drwy gydol ei gyrfa, mae Dr Wolowic wedi bod yn ymwneud ag ymchwil ryngddisgyblaethol gymhwysol ac fe ddaw  â’r profiad hwnnw i’w gwaith o arwain y Ganolfan Deialog newydd, oddi mewn i Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesedd Prifysgol Aberystwyth. Lansiwyd y Ganolfan Ddeialog ym mis Tachwedd 2022 a’i nod yw cydlynu, cefnogi a hyrwyddo sut y mae ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd. Wrth siarad yn ystod ei hwythnos gyntaf yn y swydd, dywedodd Dr Wolowic: “Rwyf wrth fy modd yn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth wrth i ni ddatblygu’r Ganolfan Ddeialog gyntaf o’i bath yng Nghymru. Ein nod yw hyrwyddo cydweithio pellach, hwyluso sgyrsiau ar faterion a meysydd polisi sydd o bwys i bobl, a gweithio gyda chymunedau a llunwyr polisi er mwyn cryfhau’r broses amlffordd o ymgysylltu, darganfod a lledu ymchwil.” Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi: “Pleser mawr yw croesawu Dr Wolowic i Aberystwyth. Yn sgil ei phenodiad rydym yn cymryd cam mawr ymlaen o ran gwireddu’n gweledigaeth ar gyfer y Ganolfan Ddeialog. “Bydd y ganolfan nid yn unig yn ofod ond yn ffordd o gyflawni ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, gan gysylltu cymunedau â’n hymchwil, ysgogi sgyrsiau sy’n hyrwyddo cyd-ddealltwriaethau newydd, a chryfhau effaith ymchwil Prifysgol Aberystwyth. Y gorau fo’n deialog, y gorau y byddwn ni wrth gyfnewid gwybodaeth a bydd yr effaith a gawn yn y byd yr ydym yn byw ynddo’n ehangach ac yn ddyfnach.” Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe Canolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth neu gallwch e-bostio deialog@aber.ac.uk.

Mwy

GWELD POPETH

Stori epig Branwen yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled cymru mewn sioe gerdd gymraeg newydd

Cyhoeddi Arweinwyr FFIT Cymru 2023

Premier byd gwirfoddoli gyda'r Papurau Bro

  • Popeth6119
  • Newyddion
    5731
  • Addysg
    2103
  • Hamdden
    1856
  • Iaith
    1609
  • Celfyddydau
    1443
  • Amgylchedd
    994
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    675
  • Llenyddiaeth
    644
  • Cerddoriaeth
    597
  • Arian a Busnes
    533
  • Amaethyddiaeth
    468
  • Bwyd
    434
  • Chwaraeon
    357
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    302
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    268
  • Ar-lein
    260
  • Eisteddfod yr Urdd
    153
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    65
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    7
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3