Premier byd gwirfoddoli gyda'r Papurau Bro

Mawrth 23, 2023

Cafwyd premier byd o hysbyseb yn annog gwirfoddoli gyda'r Papurau Bro yng nghynhadledd y Papurau Bro ar Fawrth 22ain. Roedd cynrychiolwyr o 40 o bapurau bro Cymru a Lloegr wedi dod ynghyd am eu cynhadledd flynyddol yn Aberystwyth - y tro cyntaf iddynt gyfarfod yn y cnawd ers tair mlynedd.

Bydd yr hysbyseb yn cael ei rannu yn eang i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Papurau Bro, gan ddangos y gwaith sydd y tu ôl i gynhyrchu Papur Bro ac i annog pobl i gyfrannu mewn ffordd addas at eu Papur Bro lleol.

Mae sylw wedi cael ei roi yn ddiweddar at y diffyg mewn diddordeb o fewn y to iau i wirfoddoli gyda'r Papurau Bro, ond hefyd enghreifftiau cadarnhaol gyda nifer o'r papurau yn llwyddo i gael ystod eang oedran yn cyfrannu. Mae'r papurau bro yn gobeithio bydd yr hysbyseb hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir i danio diddordeb.

Medd Heledd ap Gwynfor, trefnydd y gynhadledd:

"Y Papurau Bro sydd yn dod â newyddion, gwybodaeth a sylw lleol i gartrefi nifer fawr o bobol mewn cymunedau amrywiol iawn. Tu ôl i bob papur mae tîm dda o bobol sydd yn gweithio'n ddi-flino i gynhyrchu papur o safon, ond fel gyda pob sefydliad wirfoddol mae angen denu gwaed newydd er mwyn cadw'r diddordeb. Dwi'n ffyddiog y gall yr hysbyseb hwn atgoffa pobol o'r hyn mae'r papurau bro yn eu cyfrannu neu ddysgu rhai o'r newydd bod cyfleoedd iddyn' nhw - i bawb - allu cyfrannu at gynhyrchu Papur Bro. Mae gan bawb eu sgiliau a gan bob sgil ei rinwedd."

Er mwyn darganfod dy bapur bro lleol i ti, cer at www.papuraubro.cymru yno ceir rhestr gyswllt pob un o'r 57 Papur Bro.

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol

Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3