07/04/2025
Mae rhaglen sy’n cynnig cyfle i raddedigion sydd â’u bryd ar weithio yn y sector morol yng ngogledd Cymru i gael profiad ymarferol yn y maes. Mae’r Rhaglen Interniaethau Dyfodol Morol Gogledd Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau gyda’r bwriad o ddarparu sgiliau a phrofiad mewn cadwraeth forol, ynni adnewyddadwy, a datblygu polisi i ymgeiswyr.
25/03/2025
Mae cynllun ynni llanw o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ynni Gwyrdd y DU yn y categori Datblygwr Ynni Sero Net. Yn gynllun sy’n cael ei weithredu gan Menter Môn Morlais ac yn is-gwmni i Menter Môn, mae trefnwyr y gwobrau yn cydnabod ymrwymiad Morlais i sicrhau budd amgylcheddol ac economaidd y cynllun i’r ardal leol.
19/03/2025
Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Grŵp Llandrillo Menai wedi arwyddo cytundeb cyllid gwerth £4.43m a fydd yn datgloi cyfanswm o £19m o fuddsoddiad mewn hyfforddiant a chyfleusterau trosglwyddo gwybodaeth ar draws pum lleoliad yng Ngogledd Cymru.
18/02/2025
Bydd cynllun newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar y stryd i breswylwyr yn cael ei dreialu gan Gyngor Sir Ceredigion o fis Mawrth/Ebrill eleni.
08/01/2025
Mae busnesau a sefydliadau yng Ngwynedd wedi cael eu gwahodd i wneud cais am grantiau o hyd at £30,000 i ariannu prosiectau economi gylchol arloesol. Mae ceisiadau ar agor tan 13 o Ionawr, a bydd cyllid ar gael i brosiectau gall leihau gwastraff drwy fynd y tu hwnt i ailgylchu arferol. Y gobaith ydy, byddai hyn – yn hyrwyddo diwylliant o ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau bob dydd.
10/12/2024
Yn dilyn penwythnos o amharu yn sgil storm Darragh, daeth disgyblion dwy o ysgolion uwchradd Môn at ei gilydd yn Ljangefni yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd arbennig i drafod effaith newid hinsawdd yn lleol. Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl ifanc i leisio eu pryderon ac i gynnig atebion i rai o’r heriau ddaw yn sgil newidiadau a digwyddiadau tywydd eithafol.
21/11/2024
Bydd Mentera, cwmni nid-er-elw blaenllaw sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru, yn dangos ei gefnogaeth i'r sector gwledig yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru (25 – 26 Tachwedd 2024). Trwy arddangos y rhaglenni amrywiol y mae'n eu rhedeg ar ran Llywodraeth Cymru, bydd Mentera yn cynnig adnoddau gwerthfawr, digwyddiadau diddorol, a llwyfan i fusnesau bwyd a diod newydd ddisgleirio.
24/09/2024
Mae Menter Iaith Conwy wedi llwyddo i ddenu arian gan nifer o gronfeydd ffermydd gwynt lleol i gyflogi mwy o staff, sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg mewn darnau o’r sir.
29/08/2024
Mae bioamrywiaeth yn ganolog i ddull Peter a Cathryn Richards o ffermio, gan gyfoethogi’r amgylchedd ar gyfer pryfed ac adar tir fferm gyda digonedd o flodau gwyllt a rhywogaethau glaswellt ar eu tir.
29/08/2024
Mae potensial trawsnewidiol Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael ei deimlo fwyfwy ar draws y rhanbarth, wrth i brosiect digidol newydd symud i’r cam nesaf. Mae hyn yn dilyn cymeradwyo’r achos cyfiawnhad busnes ar gyfer prosiect y Rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel (LPWAN) gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3