Penodiad Carys Gwyn i arwain adran newydd Mudiad Meithrin

Mawrth 31, 2025

Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, gan greu miloedd o siaradwyr Cymraeg newydd yn flynyddol, mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Carys Gwyn fel Pennaeth Tîm Hyfforddiant Iaith, i arwain ar bob un o gynlluniau ieithyddol y mudiad.

Bydd Carys yn cychwyn ar ei rôl newydd ym mis Ebrill ac yn ymuno â Thîm Strategol y Mudiad. Mae ganddi gysylltiad hir â’r mudiad, ers iddi ddechrau fel Swyddog Cefnogi yn Sir y Fflint yn 2004. Yn fuan wedyn, cafodd ei dyrchafu’n Gydlynydd y Gogledd-ddwyrain, wedyn yn Gyfarwyddwr ar draws y Gogledd, ac ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth.

Dywedodd Carys Gwyn:

“Mae cael arwain ar adran a fydd yn dwyn popeth sydd yn ymwneud â chaffael, trosglwyddo a throchi iaith at ei gilydd o fewn y Mudiad trwy amryw gynlluniau yn gyfle cyffrous iawn. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â nifer o bartneriaethau hen a newydd i gefnogi’r gweithlu, y gwirfoddolwyr a theuluoedd ar eu taith iaith.”

Diben y swydd yw arwain ar adran newydd fydd yn uno sawl cynllun hyfforddiant iaith strategol gan gynnwys Croesi’r Bont, Clebran, Clwb Cwtsh, ac Camau. Bydd yr adran yn canolbwyntio ar ddatblygu a chefnogi sgiliau ieithyddol gweithlu'r sector gofal plant a theuluoedd ledled Cymru.

Dywedodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae Carys yn dod â blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth i arwain yr adran newydd hon. Bydd hyn yn ein galluogi i dyfu’n dylanwad ym maes cynllunio ieithyddol ac ymateb i anghenion y gweithlu gofal plant, ysgolion a theuluoedd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â hi.”

Mwy

GWELD POPETH

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • Popeth6403
  • Newyddion
    5971
  • Addysg
    2140
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1652
  • Celfyddydau
    1467
  • Amgylchedd
    1023
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    578
  • Amaethyddiaeth
    519
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    88
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3