Penodi dau aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mai 13, 2022
Cadarnhaodd y Gweinidog fod Naomi Luhde-Thompson a Delyth Lloyd wedi cael eu penodi i’r Awdurdod.
Fel rhan o’u rôl byddan nhw’n helpu i arwain gwaith y Parc Cenedlaethol, gan gefnogi ei arweinyddiaeth a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ddau penodiad ar gyfer pedair blynedd, tan 2026.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae Naomi a Delyth yn dod â thoreth o brofiad, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw.
"Mae’r rôl mae ein Hawdurdodau Parc Cenedlaethol yn ei chwarae bellach yn bwysicach nac erioed wrth fynd i’r afael â materion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, fel lliniaru effeithiau newid hinsawdd, datgarboneiddio, atal colli bioamrywiaeth a hyrwyddo twristiaeth fwy cynaliadwy. Mae’n hanfodol bod y sefydliadau hyn yn cael eu rheoli’n dda, a’n bod yn penodi aelodau a chanddyn nhw amrediad o sgiliau a phrofiad i’w helpu i wireddu’r uchelgeisiau hynny."
Ymrwymiad gwaith
Mae Aelodau o’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol yn derbyn tâl o £4,738 y flwyddyn, gan adlewyrchu ymrwymiad amser o 44 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Nid yw’r un ohonynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y pum mlynedd diwethaf nac yn dal unrhyw swyddi Gweinidogol eraill.
- Popeth5861
- Newyddion 5508
- Addysg 2044
- Hamdden 1840
- Iaith 1566
- Celfyddydau 1397
- Amgylchedd 965
- Gwleidyddiaeth 925
- Iechyd 660
- Llenyddiaeth 640
- Cerddoriaeth 577
- Arian a Busnes 500
- Amaethyddiaeth 432
- Bwyd 403
- Chwaraeon 344
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 288
- Ar-lein 258
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 255
- Eisteddfod yr Urdd 147
- Hyfforddiant / Cyrsiau 49
- Cystadlaethau 46
- Barn 15
- Adolygiadau Llyfrau 13
- Papurau Bro 13
- Adolygiadau Cerddoriaeth 6
- Llythyron 3