Pennod newydd i Menter a Busnes
Rhagfyr 15, 2022
Mae Menter a Busnes yn dechrau ar bennod newydd ac yn cydweddu â dyheadau a gweithgareddau Cymru heddiw a’r dyfodol – meddai’r Prif Weithredwr newydd.
Mae’n weledigaeth a rannwyd gan Llŷr Roberts, sydd newydd ddechrau yn ei swydd newydd, gyda 150 o staff y cwmni mewn cyfarfod arbennig i fapio dyfodol y busnes.
Mae gan Menter a Busnes, a sefydlwyd yn Aberystwyth 30 mlynedd yn ôl, hanes da o gyflawni dros ei gleientiaid ac economi ehangach Cymru. Yn fentrus ac yn greadigol yn ei weithgareddau, mae’r busnes yn meithrin diwylliant unigryw, hyblyg a blaengar ymhlith ei aelodau staff, sy’n gweithio ledled Cymru.
Treuliodd Llŷr ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd yn cyfarfod â staff a gofyn iddynt am eu barn ar lwyddiannau a dyheadau’r cwmni.
Dywedodd, “Mae gennym bum swyddfa ledled Cymru a staff hynod brofiadol ac ymroddedig sy’n angerddol am y busnesau a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Nhw yw asgwrn cefn Menter a Busnes a pham rwy’n credu bod ansawdd a hygyrchedd y gwasanaeth a gynigiwn yn rhoi ein cwmni mewn sefyllfa unigryw i ganfod cyfleoedd a chwrdd â’r heriau a wynebir gan economi Cymru nawr ac yn y dyfodol.”
Gydag ymagwedd a phrofiad trosfwaol o weithio ar draws sectorau, mae Menter a Busnes mewn sefyllfa dda i gyflawni er lles Cymru – ar lefelau economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Dywedodd Llŷr, “Fel cwmni blaengar, rydym am gyfrannu ymhellach at Gymru gydnerth, decach a chynaliadwy. Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch a’n bod yn gynrychioliadol o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
“Mae cysylltiad annatod rhwng ein nodweddion economaidd a chymdeithasol, ac fel cwmni dwyieithog, byddwn yn parhau i ddathlu a hyrwyddo diwylliant Cymru ar bob cyfle.
“Wrth i ni ymateb i dirwedd economaidd-gymdeithasol esblygol ac argyfwng costau byw, mae’n bwysig ein bod yn parhau i gryfhau ein seilwaith digidol a gwneud defnydd o ymchwil a mewnwelediadau i lywio penderfyniadau.”
Mae proffil rhyngwladol Cymru ar gynnydd, fel y dangoswyd yn ddiweddar gan ymddangosiad y tîm pêl-droed cenedlaethol yng Nghwpan y Byd. Felly mae angen cymorth ar fusnesau Cymru i wneud y mwyaf o gyfleoedd yn y farchnad fyd-eang.
“Mae gan Gymru botensial enfawr. Bydd yna ffocws bob amser ar ddarparu cymorth lleol o safon. Er hynny, dylem hefyd fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd i fusnesau mewn marchnadoedd eraill, a dylem fod yn edrych i adeiladu ar ddelwedd Cymru dramor. Mae’n amlwg bod llawer o heriau, ond dylem fod yn gyffrous ar gyfer y cyfleoedd sydd o’n blaenau.”
- Popeth6119
-
Newyddion
5731
-
Addysg
2103
-
Hamdden
1856
-
Iaith
1609
-
Celfyddydau
1443
-
Amgylchedd
994
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
675
-
Llenyddiaeth
644
-
Cerddoriaeth
597
-
Arian a Busnes
533
-
Amaethyddiaeth
468
-
Bwyd
434
-
Chwaraeon
357
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
302
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
268
-
Ar-lein
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
65
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
7
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3