Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Mai 12, 2025

Heddiw, fe gyhoeddodd Mentera (Menter a Busnes cynt), y cwmni nid-er-elw sy’n cefnogi a galluogi busnesau Cymru ers 35 mlynedd, ei fod wedi penodi dau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd i’w Fwrdd. Bydd cael Owen Davies ac Emily Rees ar y Bwrdd yn cryfhau ymhellach arweinyddiaeth Mentera. Daw hefyd â chyfoeth o brofiad amrywiol i’r cwmni wrth iddo barhau â’i genhadaeth i rymuso busnesau Cymru i gyrraedd safon fyd-eang.

Mae Owen Davies, sy’n wreiddiol o Abertawe ond bellach yn byw yn Llundain, yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera. Owen yw sylfaenydd a Chadeirydd Enthuse Holdings Ltd, busnes blaenllaw sy’n arbenigo yn y cyfryngau ar gyfer defnyddwyr a busnesau (B2B) ac sy’n gweithredu yn y DU ac UDA. Mae’n entrepreneur ac yn arweinydd busnes uchel ei barch, ac yn 2019 fe gafodd ei enwi’n un o 50 entrepreneur gorau’r DU. Daw ei brofiad helaeth yn y maes corfforaethol o ddal swyddi yn Unilever plc, Bass plc, a DMGT plc. Mae Owen yn frwd dros gyfrannu at ecosystem fusnes Cymru ac mae’n awyddus i gefnogi cyfeiriad strategol Mentera.

Yn ôl Owen: “A minnau wedi cael fy ngeni a’m haddysgu yng Nghymru, dwi’n awyddus iawn i gyfrannu at dwf a datblygiad busnesau Cymru. Mae ymroddiad Mentera i rymuso’r mentrau hyn yn apelio’n fawr ata i, a dwi’n awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad i gefnogi cyfeiriad strategol y cwmni.” 

Mae Emily Rees yn byw yng Nghricieth ac mae wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers tair blynedd. Ar hyn o bryd, hi yw Prif Swyddog Ariannol (CFO) Cyberfort Group Limited. Daw Emily â chryn dipyn o arbenigedd ym meysydd cyllid, adnoddau dynol, a llywodraethiant corfforaethol, a gafwyd trwy ei phrofiad o weithio i amrywiol sefydliadau mawr a bach, gan gynnwys ECCO Shoes, Pizza Express, a Tesco. Yn fwyaf diweddar, hi oedd Prif Swyddog Ariannol Quartix Technologies plc, busnes sydd wedi’i restru ar AIM ers 3 blynedd ac sydd â’i bencadlys gweithredol yn y Drenewydd. Bydd set sgiliau amrywiol Emily yn ased gwerthfawr i Fwrdd Mentera.

Yn ôl Emily Rees: “Ers symud i Gymru, dwi wedi cael fy ysbrydoli gan weledigaeth Mentera i greu newid cadarnhaol yng nghymunedau Cymru a’r dirwedd fusnes. Dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy arbenigedd ariannol ac ym maes llywodraethiant i gyfrannu at nodau uchelgeisiol y cwmni a chefnogi llwyddiant mentrau sy’n cael eu harwain gan bwrpas ledled Cymru.”

Yn ôl Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Owen ac Emily i Fwrdd Mentera. Bydd eu henw da a’u harbenigedd amrywiol yn amhrisiadwy wrth gyfoethogi ein meddwl strategol ac wrth iddyn nhw gynnig safbwyntiau ffres. Bydd ysbryd entrepreneuraidd Owen a’i ddealltwriaeth o’r amgylchedd busnes ehangach, ochr yn ochr ag arbenigedd ariannol Emily a’i phwyslais ar lywodraethiant cadarn, yn asedau allweddol wrth i ni gyflawni ein gweledigaeth o gefnogi busnesau Cymru i ffynnu.”

Ychwanegodd Fflur Jones, Cadeirydd Mentera: “Yn dilyn proses recriwtio drylwyr a llwyddiannus, rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael unigolion o safon mor uchel i ymuno â’n Bwrdd. Daw Owen ac Emily ill dau ag ymrwymiad go iawn i Gymru ac angerdd dros feithrin llwyddiant busnes. Bydd eu dealltwriaeth a’u harweiniad yn hanfodol wrth i Mentera barhau i rymuso entrepreneuriaid a busnesau Cymru, gan gryfhau sylfeini ein heconomi a chyfrannu at ddyfodol mwy llewyrchus i’r wlad.

Mwy

GWELD POPETH

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • Popeth6424
  • Newyddion
    5991
  • Addysg
    2141
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1656
  • Celfyddydau
    1469
  • Amgylchedd
    1026
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    694
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    580
  • Amaethyddiaeth
    523
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    91
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3