Mudiad Meithrin yn dathlu data sy’n dangos cynnydd o 38% mewn oriau gofal plant
Ionawr 18, 2024
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r ffigwr cyfanswm wythnosol wedi codi’n syfrdanol o 6,180 o oriau o ofal plant yr wythnos yn 2015/16 i 8,554 o oriau yr wythnos eleni - cynnydd trawiadol o 2,374 o oriau o ofal plant a’r cyfanswm oriau uchaf erioed.”
Mae’r data yn cadarnhau pwysigrwydd ein gwaith i ehangu gwasanaethau Cylchoedd Meithrin ynghyd â’r gwaith o agor Cylchoedd Meithrin newydd trwy’r cynllun Sefydlu a Symud (SaS). Ers sefydlu’r cynllun SaS yn 2017 mae 61 o Gylchoedd Meithrin wedi eu hagor neu ehangu ledled Cymru.
Yn ogystal â hyn mae canran dilyniant yn parhau yn uchel ledled Cymru – gyda 86.85% o blant yn trosglwyddo o’n Cylchoedd Meithrin i addysg Gymraeg. Gwelodd sawl sir y cynnydd uchaf mewn dilyniant ers 2016 gyda Conwy yn cynyddu o 83.37% yn 2015-16 i 99.66% yn 2022-23 a Phowys yn cynyddu o 74.27% yn 2015-16 i 86.32% yn 2022-23.
Mae’r data hefyd yn fodd i dynnu sylw at y model cynyddol sydd i’w weld yn datblygu yn ein Cylchoedd Meithrin trwy symud o ofal sesiynol am fore yn unig fel oedd yn arferol yn draddodiadol i gynnig darpariaeth gofal dydd llawn a’r manteision amlwg hynny i blant a’u rhieni/gofalwyr. Bellach mae 11,076 o blant yn mynychu ein Cylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru gan gynnig addysg a gofal dydd fforddiadwy o safon uchel i deuluoedd.
Ychwanegodd Gwenllian:
“Mae hyn yn rhoi mwy o dystiolaeth i ni am gynnydd ieithyddol y plant na ffigyrau plant a dilyniant i addysg Gymraeg yn unig, achos yn amlwg, po fwyaf o gyswllt y caiff plentyn gyda’r Gymraeg, po orau, gan y bydd yn caffael yr iaith yn gyflymach.”
- Popeth6387
-
Newyddion
5957
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1646
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
692
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
574
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3