Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am aelodau bwrdd annibynnol

Medi 13, 2024

Ar gyfnod cyffrous i Fentrau Iaith Cymru rydym am recriwtio aelodau bwrdd annibynnol. Cwta flwyddyn ers penodi Cyfarwyddwr newydd, rydym yn chwilio am unigolion sydd yn frwd dros gynyddu defnydd y Gymraeg yn eu cymunedau, er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y Mentrau Iaith yn effeithiol.

Meddai Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Mentrau Iaith Cymru:

“Pwrpas Mentrau Iaith Cymru yw cefnogi gwaith y Mentrau Iaith i greu cyfleoedd i gymunedau Cymraeg ffynnu ym mhob cwr o Gymru. Rydyn ni am elwa o arbenigedd a phrofiadau aelodau annibynnol ac yn gyffrous i weithio mewn ffordd newydd, mwy atebol."

Mae 5 lle ar Fwrdd Cyfarwyddwyr newydd Mentrau Iaith Cymru. Rydym yn awyddus bod un o'r aelodau yn berson ifanc 19 - 25 oed, ac rydym yn arbennig yn awyddus i recriwtio unigolion sydd â phrofiad neu arbenigedd mewn:

- Cydraddoldeb a chynhwysiant
- Cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
- Cynllunio ieithyddol a chymunedol
- Denu nawdd

Bydd y Bwrdd yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn a bydd aelodau'r Bwrdd yn cynorthwyo'r cyfarwyddwyr gweithredol i roi cyfeiriad strategol i waith Mentrau Iaith Cymru ac i eirioli dros y mudiad wrth iddyn nhw gefnogi gwaith y 22 Menter Iaith ar draws Cymru.

Dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr yw 18 Hydref am hanner dydd

Mae ffurflen gais ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru https://mentrauiaith.cymru/ mentrau-iaith-cymru-yn-chwilio-am-aelodau-bwrdd-annibynnol/

Am ragor o fanylion cysylltwch â post@mentrauiaith.cymru

Mwy

GWELD POPETH

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • Popeth6403
  • Newyddion
    5971
  • Addysg
    2140
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1652
  • Celfyddydau
    1467
  • Amgylchedd
    1023
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    578
  • Amaethyddiaeth
    519
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    88
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3