Mentera yn meithrin cefnogaeth ar gyfer maethu
Rhagfyr 12, 2024
Mae Mentera wedi addo cefnogi ei weithwyr, sydd hefyd yn darparu gofal maeth, drwy gynnig mwy o absenoldeb â thâl ar gyfer eu hymrwymiadau maethu. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ofalwyr ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi mewn perthynas â maethu ac i fynychu cyfarfodydd a hyfforddiant a sicrhau bod person ifanc yn setlo yn ei gartref newydd.
Gyda thros 5,000 o blant mewn gofal maeth yng Nghymru, mae galw ar gyflogwyr i gynnig hyblygrwydd i ofalwyr maeth gyfuno maethu â gwaith arall.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu Cenedlaethol, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno’r ddau beth hyn. Mae cael cyflogwr cefnogol, felly, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i deuluoedd maeth, gan eu galluogi i gydbwyso gwaith a maethu plant.
Mae cefnogaeth eu cyflogwyr hefyd yn helpu’r rhai sydd â diddordeb mewn maethu i gymryd y cam cyntaf.
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera:
“Fel cwmni sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yng nghymunedau Cymru, rydyn ni’n falch o gefnogi gofalwyr maeth. Trwy ddod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu, rydyn ni’n cyd-fynd â’n hegwyddor graidd o wneud gwahaniaeth.
Rydyn ni’n grymuso ein gweithwyr i gael effaith gadarnhaol yn ein cwmni ac ym mywydau plant mewn angen. Mae’r fenter hon yn cefnogi ein gweledigaeth o gael Cymru lewyrchus, lle mae busnesau a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i greu dyfodol mwy disglair i bawb.”
Ychwanegodd Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru:
“Mae dod yn gyflogwr sy’n gefnogol o faethu yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono a hoffwn ddiolch i Mentera am ei ymrwymiad i gefnogi gofal maeth yng Nghymru.
“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i gynyddu, mae annog a chefnogi cyflogwyr lleol i fod yn gefnogol o faethu yn un o’r pethau rydyn ni’n ei wneud i gefnogi gofalwyr maeth yng Nghymru.
"Pan fo plant yn cadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau, yn aros yn lleol, ac yn cael rhywun i’w cefnogi am yr hirdymor, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell. Felly, os yw cyflogwyr yng Nghymru yn gallu cefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, mae awdurdodau lleol yn gallu helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac, yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”
Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar i’w hun o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i gynnig cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc leol.
Am ragor o wybodaeth am sut i ddod yn ofalwr maeth, ewch i maethucymru.llyw.cymru
- Popeth6384
-
Newyddion
5954
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1645
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
691
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
573
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3