Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
Ebrill 07, 2025
Yn dilyn llwyddiant y cynllun dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Mentera, un o gwmnioedd datblygu economaidd mwyaf blaenllaw Cymru, yn cynnig cyfle i ddau berson ifanc ymgymryd ag interniaeth 'ymarferol' â thâl yn gweithio o fewn y diwydiant amaeth trwy ei gynllun interniaeth, 'Cyfle'.
Esboniodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Cyflawni Gwasanaethau Mentera, “mae’r cynllun hwn yn rhoi amrywiaeth o brofiadau perthnasol i ddau berson ifanc sy'n gadael yr ysgol, coleg neu brifysgol a fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddarganfod pa feysydd y maent yn ymddiddori ynddynt fwyaf a chynnig cam gwerthfawr i helpu i roi cychwyn da i'w rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
Dywedodd Carys Evans, un o interniaid Cyfle 2024:
“Roedd y cyfleoedd a gefais wrth fod yn rhan o Cyfle yn amhrisiadwy. Yn sicr, roedd y profiadau wedi fy helpu i benderfynnu fy mod am weithio o fewn y diwydiant amaeth yng Nghymru.
Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â ffermydd ar hyd a lled Cymru yn gwneud gwaith ymarferol. Yn ogystal, roedd cael y profiad o fod yn rhan o dîm gweithgar yn un positif, fe wnes i fwynhau pob eiliad.”
Ychwanegodd Eirwen Williams: “Mae’n gynnig sy’n galluogi unigolion i ymgysylltu'n uniongyrchol â ffermwyr drwy ymweld â busnesau gwledig, digwyddiadau amaethyddol, sioeau neu farchnadoedd da byw, mae 'Cyfle' yn cynnig cyfle unigryw i gysgodi a dysgu gan aelodau profiadol ein tîm.”
Ychwanegodd Gwennan Owen, un o Interniaid Cyfle 2023:
“Wedi graddio o Aberystwyth, bu interniaeth Mentera gyda Cyswllt Ffermio yn drawsnewidiol. Cynigiodd gyfleoedd amhrisiadwy yn y sector amaethyddol, gan ddarparu gwybodaeth ddofn o'r diwydiant a chysylltiadau proffesiynol hanfodol. Cyfrannodd y profiad hwn yn uniongyrchol at fy llwyddiant yn fy rôl bresennol gyda’r cwmni. Rwy'n argymell yr interniaeth hon yn fawr i unrhyw un sy'n angerddol am amaethyddiaeth - gall siapio'ch llwybr gyrfa yn sylweddol.”
Gyda 200 awr o waith ar gael i'r ddau interniaid, gyda thâl o £12.30 yr awr, gallai hwn fod yn gyfle perffaith i unrhyw fyfyriwr ysgol neu goleg/prifysgol y mae'n rhaid iddynt fod wedi cwblhau addysg amser llawn erbyn Haf 2025. Rhaid i'r interniaeth ddigwydd rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2025 a/neu fis Medi a mis Hydref 2025.
“Yn ddelfrydol, bydd ymgeiswyr yn gallu teithio i un neu fwy o swyddfeydd Mentera sydd yn Ynys Môn, Llanrwst, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd, ond gallai fod cyfleoedd hefyd i gysgodi a gweithio ochr yn ochr â staff rhanbarthol mewn rhannau eraill o Gymru.
“Ar yr amod nad ydych eisoes wedi trefnu i ymgymryd â gwaith cyflogedig, gallai 'Cyfle' ddarparu cyfle gwych i chi ennill profiad cyflogedig perthnasol, gan ychwanegu'r elfen hollbwysig honno at eich CV,” meddai Eirwen Williams.
Bydd y ddau ymgeisydd llwyddiannus yn cael mentor Mentera dynodedig yr un a byddant yn cael cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) penodol. Byddant hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd Mentera a chael cyngor ar ddatblygu gyrfa a thechnegau cyfweliad.
I wneud cais am yr interniaeth, ewch i mentera.cymru/cyfle neu am ragor o wybodaeth e-bostiwch sian.tandy@mentera.cymru neu ffoniwch 07932 610 697.
Mae’r ceisiadau’n cau ar 25.04.2025.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3