Menter a Busnes yn gosod her gorfforol i’r staff i godi arian at achosion da
Mehefin 21, 2022
Fel rhan o’u Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, bob blwyddyn mae staff Menter a Busnes yn dewis elusen i gefnogi. Eleni penderfynwyd cefnogi dwy elusen sy’n agos iawn at galonnau nifer o’r staff sef DPJ Foundation a Tir Dewi. Mae’r ddwy elusen yn gwneud gwaith amhrisiadwy yng nghymunedau Cymru yn enwedig yng nghefn gwlad.
Fel rhan o’r ymgyrch i godi arian dros y flwyddyn, penderfynwyd gosod her i’r staff i gyrraedd Aberystwyth ar gyfer cyfarfod tîm, unai ar feic neu ar droed.
Bydd rhai aelodau (dewr!) yn beicio o Gaerdydd a Bangor i Aberystwyth, gydag eraill yn cerdded llwybr arfordir Ceredigion neu lwybr Cwm Rheidol.
Bydd y beicwyr yn cael dewis o’r teithiau yma:
· Bangor i Aberystwyth (153.18km),
· Caerdydd i Aberystwyth (173.31km)
· Meifod i Aberystwyth (87.36km).
I’r rhai sy’n dymuno cerdded, bydd y staff yn dewis o blith:
· Llwybr Cwm Rheidol o Drawscoed i Aberystwyth (19.31km),
· Llwybr arfordir Ceredigion o Borth i Ynys Las a nôl i Aberystwyth (19.72km),
· Llwybr arfordir Ceredigion o Llanon i Aberystwyth (19.78km).
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes, “Ar ôl y ddwy flynedd diwethaf, mae’n holl bwysig i ni drefnu digwyddiadau sy’n rhoi cyfle i’n staff dod ynghyd. Gyda dros 80 o staff eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr her, mae’n saff i ddweud bod pawb yn edrych ymlaen yn arw at gyflawni’r her a chodi arian angenrheidiol at y ddwy elusen llawn haeddiannol.”
Dywedodd Kate Miles, Rheolwr DPJ Foundation, “Rydym yn falch iawn o gefnogaeth Menter a Busnes ac yn edrych ymlaen at weld eu hymdrechion yn dod at ei gilydd ar gyfer y Bererindod. Mae bod yn actif yn un o'r 5 ffordd at les, un arall yw rhoi i eraill, felly bydd staff Menter a Busnes nid yn unig yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian i DPJ Foundation a Tir Dewi, ond yn hybu eu lles eu hunain ar yr un pryd. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan, rydym yn croesi bysedd bydd y tywydd yn garedig a bydd pawb yn mwynhau. Edrychwn ymlaen at ddilyn eich taith a diolch i chi am eich ymdrechion!”
Mae croeso cynnes i bawb i’r promenâd yn Aberystwyth i’w croesawu nôl tua 5pm nos Iau 23 Mehefin. Bydd modd i chi ddilyn y cyfan ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #PererindodMaB
Mae modd cyfrannu’n ariannol tuag at yr achosion da wrth ymweld â’n tudalen Go Fund Me: http://gofund.me/2bffadc1
- Popeth5997
-
Newyddion
5624
-
Addysg
2095
-
Hamdden
1853
-
Iaith
1585
-
Celfyddydau
1423
-
Amgylchedd
990
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
666
-
Llenyddiaeth
644
-
Cerddoriaeth
587
-
Arian a Busnes
510
-
Amaethyddiaeth
448
-
Bwyd
414
-
Chwaraeon
348
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
302
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
266
-
Ar-lein
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
50
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Papurau Bro
13
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3