Menter a Busnes yn datgelu brand a gweledigaeth newydd
Gorffennaf 02, 2024
O dan enw newydd uchelgeisiol, datgelodd – Mentera – ei wedd a’i gynllun strategol newydd i bartneriaid allweddol, swyddogion y Llywodraeth ac arweinwyr diwydiant yng Ngwinllan Llanerch – enghraifft o fusnes yng Nghymru sydd wedi arallgyfeirio o dir fferm i ddod yn winllan a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Wrth i’r cwmni ddathlu ei ben-blwydd yn 35 oed, bydd Mentera (a elwid gynt yn Menter a Busnes) a’i 170 o staff sy’n gweithio ledled Cymru, yn parhau i ddarparu buddsoddiad a chefnogaeth ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth a bwyd a diod, drwy gyfrwng ei weledigaeth, ‘O’r Fro i’r Byd’.
Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: “Mae gan Gymru gyfoeth o dalent, arloesedd a chynnyrch unigryw sy’n haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol. Trwy ein hymagwedd newydd feiddgar, rydym wedi ymrwymo i drawsnewid mentrau lleol yn straeon llwyddiant ar y llwyfan ryngwladol.