Mair Edwards yw Cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn
Tachwedd 08, 2023
Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn dathlu dechrau pennod newydd yn ei hanes. Yn ogystal â chwblhau gwaith uwchraddio sylweddol gwerth £2m ar y safle, mae’r Urdd yn falch o groesawu Mair Edwards fel Cyfarwyddwr newydd Gwersyll Glan-llyn.
Yn dilyn blwyddyn o waith datblygu, mae’r gwaith o uwchraddio’r Ganolfan Hyfforddi Gweithgareddau Dŵr wedi’i gwblhau ac mae Canolfan o’r radd flaenaf bellach i’w chael ar lan Llyn Tegid. Mae’r Ganolfan yn cynnwys llety a chyfleusterau hunan-arlwyo, ardaloedd cyfarfod, ystafelloedd newid, a gweithdy. Mae’r adeilad newydd hefyd yn cynnig ystafelloedd gyda golygfeydd godidog dros Lyn Tegid i’w hurio ar gyfer grwpiau i gynnal cyfarfodydd, neu weithdai.