Lois Medi Wiliam yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024
Mai 30, 2024
Mae Lois ar fin graddio o Ysgol Economeg Llundain (LSE) mewn Anthropoleg Gymdeithasol. Mae hi’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor lle’r enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf. Enillodd hefyd goron eisteddfod Ysgol Tryfan, Bangor a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy.
Ddwy flynedd yn ôl daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama yr Urdd. Y llynedd dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Gymdeithas Barddas am y gerdd orau i rai rhwng 16 a 25 oed. Mae hi eisoes wedi cyhoeddi cerddi ynCodi Pais ac yn Ffosfforws (Cyhoeddiadau’r Stamp), ond dyma’r tro cyntaf iddi gyhoeddi ei barddoniaeth yn unigol.
Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rhydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun: ‘Gwrthryfela’.Ysgrifennodd Lois y gerdd fuddugol er cof am ei thaid, un a hybodd ei diddordeb mewn llenydda. Dywedodd y beirniaidTegwyn Pughe Jones a Mari George fod Lois yn haeddu’r gadair am ‘gynildeb hyfryd’ ei cherdd.
“Fe lwyddodd cerdd syml y bardd hwn i fynd â fy ngwynt. Ymgais i ddygymod â galar sydd yma ac mae’r dweud yn hynod afaelgar o’r dechrau un. Nid yw’r thema yn y gerdd yn newydd ond mae arddull ymatalgar a chynnil y bardd a’r ymdriniaeth a’r thema yn taro deuddeg. Mae’n llwyddo i gyfleu hiraeth a thristwch mewn ffordd aeddfed heb bentyrru ansoddeiriau a heb greu darluniau sentimental.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Brennig Davies o Gaerdydd a Tesni Elen Peers o Wrecsam yn drydydd. Bydd gwaith y ddau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Urdd heddiw. Bydd y gwaith buddugol ynghyd â'r feirniadaeth ar gael i'w darllen yng Nghyhoeddiadau’r Stamp ar ôl y seremoni.
Mae Lois yn derbyn cadair hardd wedi ei chreu gan y saerSiôn Jones o Lanidloes a’i rhoi gan NFU Cymru Maldwyn.
Meddai Siôn am y profiad o greu cadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn: “Mae creu cadair Eisteddfod yr Urdd yn gyfle unwaith mewn bywyd, ac mae creu'r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu yn fraint. Mae’r Urdd yn bwysig i Gymru ac yn dod â phobl â’r iaith at ei gilydd, mae’r ffaith bod fy nghadair i yn mynd i serennu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn yn rhywbeth dwi’n falch iawn ohono.”
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru, er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.
Gellir dod o hyd i holl ganlyniadau’r Eisteddfod hyd yma drwy ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3