Llwyddo’n Lleol yn cynnig profiad cyfryngau i unigolion Ceredigion

Medi 24, 2024

Yn ystod grwpiau trafod Llwyddo’n Lleol gyda phobl ifanc yng Ngheredigion, fe ddaeth i’r amlwg bod yna ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ym myd y cyfryngau yng nghefn gwlad ARFOR.

Er bod llawer o ddiddordeb yn lleol, a nifer helaeth yn heidio i brifysgolion dinesig i astudio newyddiaduraeth a’r cyfryngau, soniodd sawl un nad oedd yna ryw lawer o gyfleoedd am brofiadau ymarferol yn y maes yn agos at adref.

Penderfynodd Alaw Rees, Swyddog Gweithgareddau Ceredigion gyda phrosiect Llwyddo’n Lleol, i fynd i’r afael â’r her a threfnu penwythnos ‘Arloesi mewn Amaeth’. Dyma benwythnos oedd yn cynnig deuddydd llawn profiadau ym myd y cyfryngau, o sgriptio, ffilmio, cyflwyno a golygu cynnwys, a’r cyfan yn canolbwyntio ar ddarlledu o fyd amaeth. Dewiswyd naw unigolyn brwdfrydig i fod yn rhan o’r penwythnos gyda’r gobaith o danio’u huchelgais a’u hangerdd i ddilyn gyrfa broffesiynol yn y sector yn y dyfodol.

Dywedodd Alaw: “Bwriad y penwythnos hwn oedd cynnig cyfle unigryw i unigolion yr ardal i brofi hyfforddiant sydd ddim, fel rheol, ar gael yn lleol. Roeddwn i’n awyddus i ddangos bod modd i bobl ifanc weithio ym myd amaeth mewn ffyrdd sydd efallai yn llai amlwg a thraddodiadol, a rhoi cipolwg iddyn nhw ar un o'r diwydiannau eraill y gallan nhw ei gyfuno ag amaeth.” 

Ychwanegodd Alaw: “Roedd y penwythnos yn gyfle iddyn nhw gwrdd â phobl newydd, creu cysylltiadau a all fod o fudd iddyn nhw yn y dyfodol, datblygu sgiliau newydd, a chael eu hysbrydoli.

“Roedd hi’n wych gweld y criw yn dod i ddeall bod yr holl gyfleoedd hyn yn eu milltir sgwâr – hynny yw, bod modd llwyddo i gael gyrfa lewyrchus o fewn amaeth a'r cyfryngau a dal i fyw yng nghefn gwlad Cymru. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn amlwg yn bwysig iawn i'r criw cyfan.”

Roedd cael Meinir Howells, enillydd gwobr Ffermwraig y Flwyddyn yng Nghymru, fel hwylusydd i’r penwythnos yn ddewis amlwg. Mae’n unigolyn a oedd yn gallu rhoi ysbrydoliaeth a chyngor i’r criw ifanc, yn enwedig i’r rhai oedd yn dyheu am ddilyn yn ei hôl troed hi o gyflwyno ym myd amaeth. 

Dywedodd Meinir: “Roedd hi’n braf cael y cyfle i feithrin talentau newydd ac addysgu pobl sydd ag angerdd a diddordeb mewn bod yn rhan o’r cyfryngau neu sydd am yrfa yn ymwneud ag amaeth a bwyd y tu hwnt i glos y fferm.”  

Cynhaliwyd y penwythnos ar fferm Meinir Howells, Shadog – ac am leoliad godidog i gynnal sefyllfaoedd realistig a sesiynau ymarferol ar fferm weithredol, lwyddiannus! Cafwyd siaradwyr gwadd adnabyddus o’r sector yn ymweld â’r fferm ar y diwrnod olaf i gynorthwyo’r unigolion a chyfrannu at raglen broffesiynol yn sôn am yr heriau sy’n  wynebu’r sector amaeth. Ffrwyth llafur y penwythnos fydd ffilm fer wedi’i ffilmio, ei chyfarwyddo a’i sgriptio o’r dechrau i’r diwedd gan yr unigolion ifanc!

Bydd y cofnod hwn o’r hyn a gyflawnwyd dros y deuddydd yn cael ei rannu gyda’r unigolion. Y gobaith yw y bydd yr adnodd yn eu galluogi nhw i ragori mewn cyfweliadau a’u caniatáu i wneud ceisiadau hyderus am gyfleoedd llawrydd yn y dyfodol.

Dywedodd Gwenno Roberts, un o’r rhai a gymerodd ran sy’n wreiddiol o Sir Gâr ond sydd bellach yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei bod hi wedi mwynhau’r profiad: “Roedd cael profiad go iawn o ffilmio, cyflwyno a chyfweld yn hynod fuddiol, a dwi’n bwriadu cwblhau mwy o brofiad gwaith a chyrsiau tebyg yn y maes drwy ddefnyddio’r cysylltiadau dwi wedi’u ffurfio yn sgil y penwythnos hwn.” 

Ychwanegodd Awen Davies, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron, ei bod hi wedi cofrestru ar gyfer y cwrs oherwydd bod yr amser wedi dod iddi ddewis pynciau a’i bod hi’n gobeithio y byddai’r penwythnos yn help iddi benderfynu pa drywydd i’w ddilyn. “Fe wnes i fwynhau’r hyfforddiant sgriptio ac mae’r penwythnos wedi dangos i mi sut fyddai modd i mi gyfuno dau beth sy’n agos at fy nghalon, sef cyfathrebu yn y Gymraeg ac amaeth.”

Wrth glou, ychwanegodd Alaw: “Roedd hi’n braf gweld yr unigolion ifanc yn mwynhau dysgu. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu brwdfrydedd a dwi’n mawr obeithio bod y penwythnos wedi bod yn agoriad llygad iddyn nhw weld yr hyn sy’n bosib ar ei stepen drws.”

I ddysgu rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, ewch i: llwyddonlleol2050.cymru

Mwy

GWELD POPETH

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • Popeth6403
  • Newyddion
    5971
  • Addysg
    2140
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1652
  • Celfyddydau
    1467
  • Amgylchedd
    1023
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    578
  • Amaethyddiaeth
    519
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    88
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3