Llety unigryw yn barod am dymor gwyliau newydd
Ionawr 23, 2023
Wrth baratoi i groesawu gwesteion yn 2023, mae’r llety yn gobeithio cynnig profiad ar-lein gwell a’i gwneud hi’n haws i bobl archebu a dysgu am y lleoliad a’r ardal gyfagos.
Dywedodd Menna Machreth, cadeirydd Llety Arall: “Rydym yn falch iawn o lansio’n gwefan newydd ac yn hyderus y bydd yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei angen ar westeion i wneud y mwyaf o’u hamser yma gyda ni. Rydym yn annog cwsmeriaid i ymweld â’r wefan newydd ac i ddechrau cynllunio eu hymweliad.”
Mae’r wefan yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion i roi cymorth i ymwelwyr ddysgu am Llety Arall a chynllunio aros yn nhref hanesyddol Caernarfon. Mae’r rhain yn cynnwys manylion ystafelloedd a chyfleusterau; gwybodaeth am y lleoliad ac atyniadau cyfagos, system archebu ar-lein hawdd a galeri i gynnig cipolwg o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn ystod arhosiad.
Mae Menna’n ychwanegu: “O’r cychwyn roedden ni eisiau cynnig profiad Cymreig yma yn Llety Arall a’r nod heddiw, fel yr oedd pan wnaethon ni agor ydi gweithredu mewn modd cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar. Wedi ein leoli yng nghanol y dref, mae bod yn rhan o’r economi leol yn bwysig i ni hefyd. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig profiad croesawgar i’n gwesteion i gyd, ac yn falch o allu rannu’n gwefan newydd gyda’r byd.”
Llety annibynnol yw Llety Arall sy’n cynnig arhosiad unigryw i westeion a’r cyfle i brofi’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn uniongyrchol. Sefydlwyd y llety yn 2018 yn fenter gymunedol er budd y gymuned ac mae’n eiddo i’w haelodau.
- Popeth6119
-
Newyddion
5731
-
Addysg
2103
-
Hamdden
1856
-
Iaith
1609
-
Celfyddydau
1443
-
Amgylchedd
994
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
675
-
Llenyddiaeth
644
-
Cerddoriaeth
597
-
Arian a Busnes
533
-
Amaethyddiaeth
468
-
Bwyd
434
-
Chwaraeon
357
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
302
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
268
-
Ar-lein
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
65
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
7
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3