Leri Ann yn rhyddhau sengl newydd
Ebrill 20, 2022
Mae'r artist cerdd ifanc, Leri Ann yn rhyddhau sengl newydd Ffŵl Ohona i ar label JigCal ddydd Gwener yma.
Mae Leri Ann yn wyneb cyfarwydd, wedi iddi actio rhan un o gymeriadau fwyaf lliwgar Rownd a Rownd - Erin. Ond, yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn datblygu ei thalentau unigryw fel cantores gyda'r cynhyrchwr Mei Gwynedd.
Wedi rhyddhau ei EP cyntaf llynedd (You And Me), mae Leri yn ol gyda sengl Newydd, Ffwl Ohona I. Mae’r dylanwadau yn deillio o girl bands y 60au fel The Ronettes a’r Shirelles hyd at enwau fwy modern fel Duffy, Amy Winhehouse a Lady Gaga. Mae hi yn gantores unigryw ac arbennig, ac mae’r trac newydd yn destun fod Leri hefo dyfodol disglair iawn fel cantores.Cyfrannu fy rhan
Yn ol Leri - "Dwi wrth fy modd gyda’r sain, a chanu y math yma o ganeuon. Fedrai ddim disgwyl perfformio y caneuon newydd yn fyw, ac yn edrych ymlaen yn fawr o allu cyfrannu fy rhan tuag at y sin gerddorol gwych sydd yma yng Nghymru ar hyn o bryd".
Bydd rhagor o senglau yn cael eu rhyddhau drost y misoedd nesaf, gyda albwm llawn ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.- Popeth6387
-
Newyddion
5957
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1646
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
692
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
574
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3