Lansio pecyn darganfod i blant mewn dwy ganolfan natur
Hydref 18, 2017
Gallant fenthyg pecyn darganfod rhad ac am ddim ar ôl cyrraedd a defnyddio’i gynnwys i fynd yn nes at natur yn ystod eu hymweliad.
Mae’r pecynnau’n cynnwys offer defnyddiol fel binocwlars, chwyddwydr, potyn chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd ag arweiniad yn esbonio sut i’w defnyddio.
Ymhellach, maent yn cynnwys ambell her i roi’r helfa natur ar waith. Mae’r rhain yn amrywio o adnabod coed i rwbio rhisgl, o chwilio am fwystfilod bach i adnabod adar.
Meddai Mary Galliers, Swyddog Hamdden, Marchnata a Thwristiaeth CNC: “Mae ein canolfannau ymwelwyr yn lleoedd gwych ichi gychwyn ar antur awyr agored gyda’r teulu. Gobeithio y bydd ein pecynnau darganfod newydd yn ychwanegu at yr hwyl yn ystod hanner tymor.
“Hefyd, mae gennym lwybrau cerdded addas i deuluoedd yn nifer o’n coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru, ynghyd â chyfleusterau eraill fel mannau chwarae, llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a llwybrau beicio rhwydd.
“Yn ogystal â mwynhau diwrnod gwerth chweil gyda’r teulu, byddwch hefyd yn rhoi hwb i’ch iechyd, oherwydd mae pobl egnïol sy’n mwynhau’r awyr agored yn fwy tebygol o fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.”
Benthyg pecynnau darganfod
Gellir benthyg pecynnau darganfod yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth ac ym Mharc Coed y Brenin ger Dolgellau. Ni chodir tâl am eu benthyg, ond gofynnir i riant neu oedolyn arall lenwi ffurflen gofrestru fer a gadael blaendal.
I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar y wefan.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru
- Popeth6387
-
Newyddion
5957
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1646
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
692
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
574
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3