Lansio Llyfr Cyntaf Cynllun AwDUra
Tachwedd 06, 2023
Ddiwedd Ebrill 2022 fe lansiodd Mudiad Meithrin y cynllun ‘AwDUra’ er mwyn annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ’sgwennu straeon i blant bach cymuned Mudiad Meithrin a thu hwnt.
Bu dau enw mawr o fyd ‘sgwennu a chyhoeddi Cymru – Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros yn cydweithio â’r Mudiad ar y cynllun ac yn mentora’r 10 ymgeisydd llwyddiannus a fu’n rhan o’r cynllun.
Yn ystod y cynllun bu i’r 10 ymgeisydd dderbyn cefnogaeth i greu straeon i blant bach ac fe ymrwymodd y Mudiad i gyhoeddi gwaith o leiaf dau o blith yr awduron newydd gan gefnogi pob un i barhau i greu llenyddiaeth i blant wedi i gyfnod y cynllun ddod i ben.
Fe anfonodd bob un destun eu llyfrau at Manon a Jessica ynghyd â Nia Gregory (arweinydd Cylch Meithrin Llanypwll, Wrecsam a oedd ar y panel beirniadu) i ddewis 3 llyfr i’w cyhoeddi. Y darpar-awduron a ddewiswyd i gyhoeddi eu llyfrau i blant oedd: Chantelle Moore, Mili Williams, Theresa Mgadzah Jones gyda Sarah Younan yn ’sgwennu stori ar ffurf cartŵn a gyhoeddwyd yn WCW – cylchgrawn Cymraeg i blant bach.