Lansio Hwb Iechyd Gwyrdd yn Cynefin

Ionawr 25, 2024

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio ei Hwb Iechyd Gwyrdd trwy gynnal diwrnod agored ar ei safle Cynefin yng Nghaerfyrddin.

Bu PCYDDS yn gweithio mewn partneriaeth â Coed Lleol dros nifer o flynyddoedd i gefnogi datblygiad safle Cynefin i ddod yn Hwb Iechyd Gwyrdd, er lles pobl ledled Sir Gâr.

Mae prosiect Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin wedi derbyn cyfanswm o £270,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yw hyrwyddo cyfleoedd iechyd meddwl a lles cymunedol ar gyfer grwpiau cymunedol trwy fynediad at fannau gwyrdd lleol. Bydd yn gweithio gyda sawl partner i gynnal gweithgareddau sy’n hyrwyddo lles, clymau cymdeithasol, a gwybodaeth am y byd naturiol.

Ddydd Iau’r 18fed o Ionawr, cynhaliwyd digwyddiad lansio yn Cynefin i ddathlu dechrau prosiect blwyddyn o hyd, lle hyrwyddodd PCYDDS a Coed Lleol gyfleoedd iechyd a lles i bobl leol. Cynigodd Coed Lleol gyfle i gael blas ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl o’u rhaglenni trwy weithgareddau naddu syml, gwehyddu helyg a diodydd poeth o gwmpas y tân.

Meddai Becky Brandwood-Cormack, Swyddog Prosiect Llesiant Coetir ar gyfer Coed Lleol:

“Roedd ein digwyddiad lansio yn ddechreuad perffaith i’r hyn sy’n argoeli i fod yn flwyddyn lwyddiannus a boddhaus i ni i gyd yn Yr Hwb. Crëwyd cymuned o gwmpas y tân wrth i gyfranogwyr blaenorol ddod ochr yn ochr â’r rhai sy’n awyddus i ymuno â ni eleni. Fe wnaethom hefyd groesawu gweithwyr iechyd proffesiynol o Fwrdd Iechyd Hywel Dda, elusennau lleol, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr a sefydliadau partner. Gobeithiwn alluogi cynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar ymgynnull o gwmpas y tân a dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chysylltu â’r byd naturiol. Cynefin yw’r safle perffaith i wneud hyn, ac rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni i ddysgu rhagor.”

Mae Coed Lleol wedi bod yn darparu rhaglenni llesiant coetir rhad ac am ddim ledled Cymru ers mwy na 10 mlynedd, gan gyfuno’r byd naturiol a gweithgareddau wedi’u lleoli mewn coetiroedd i wella iechyd a lles. Mae eu gwaith yn cynnig cyfleoedd i unigolion gefnogi eu lles gyda 5 ffordd at les y GIG fel fframwaith (Rhoi, Bod yn sylwgar, Bod yn fywiog, Dal ati i Ddysgu, Cysylltu). Maen nhw’n mesur yr effaith y mae hyn yn ei gael ar unigolion sy’n cymryd rhan ac yn creu llwybrau dewisol o gyfranogwr i wirfoddolwr i arweinydd gweithgareddau.

Mae Cynefin wedi bod yn safle allweddol ar gyfer rhywfaint o ddarpariaeth Sir Gâr Coed Lleol yn y gorffennol, a oedd yn cynnwys y themâu rhaglen canlynol: lles a chadwraeth natur, a dathlu tymor y Gwanwyn. Maen nhw’n arbenigo yn y gweithgareddau hyn: Byw yn y Gwyllt, Fforio, Gwaith coed gwyrdd, Gwehyddu Helyg, Celf a chrefft natur, Cysylltiad â natur ac ymwybyddiaeth ofalgar, hyfforddiant Arweinydd Taith Gerdded Iechyd ac unedau eraill wedi’u hachredu gan Agored Cymru.

Meddai Andrew Williams, Swyddog Prosiect ac Ymgysylltu ar gyfer y Drindod Dewi Sant yn Cynefin:

"Rydym am i Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin fod yn rhywle lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt, lle i gael ysbaid, cyfeillgarwch a thwf. Mae’r gweithgareddau a gynigir gennym yn Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn manteisio ar leoliad hardd Cynefin i gynnig cyfle i ymgolli mewn natur, dysgu sgiliau i symud ychydig yn nes at fyw’n naturiol, a chael ymarfer corff iach a hamddenol ymhlith cymuned gefnogol." 

Bydd yr Hwb yn cynnig casgliad o weithgareddau megis byw yn y gwyllt, naddu, gwehyddu helyg, canu, llifynnau ac inciau naturiol, tecstilau, chwedlau Cymreig, fforio, gwneud meddyginiaeth naturiol, coginio ar dân gwersyll, adrodd straeon, cysylltu â natur, plannu hadau, gwaith lledr a llawer mwy!

Cynhelir y gweithgareddau yn ystod cynulliadau misol neu fel darpariaeth o raglenni 6 wythnos o hyd. Mae’r gweithgareddau’n agored i bawb. Bydd rhai gweithgareddau i oedolion yn unig, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar deuluoedd.

Mwy

GWELD POPETH

Mentera yn meithrin cefnogaeth ar gyfer maethu

Llwyfan i bobl ifanc Môn i leisio barn am newid hinsawdd

Cymro o Gaerfyrddin yn creu llwyfan digidol arloesol i wella addysg cyfrwng Gymraeg

  • Popeth6381
  • Newyddion
    5951
  • Addysg
    2136
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1645
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1018
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    691
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    572
  • Amaethyddiaeth
    515
  • Bwyd
    456
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3