Lansiad ‘Mae Pawb yn Perthyn: Cynllun Tegwch a Gwrth-hiliaeth Mudiad Meithrin
Awst 23, 2024
Yn sgil cyhoeddi Gwerthusiad o’n Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y llynedd, fe lansiodd Mudiad Meithrin strategaeth Mae Pawb yn Perthyn: Cynllun Tegwch a Gwrth-hiliaeth Mudiad Meithrin 2024-2027 ar ddydd Llun 5ed Awst ar stondin y Mudiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, ac i Mudiad Meithrin mae ein gwaith gwrth-hiliol ac amrywiaeth yn ganolog i’r weledigaeth honno. Yn aml iawn, bydd plant a’u rhieni yn dechrau ar eu taith i fod yn siaradwyr Cymraeg drwy wasanaethau’r Mudiad, a’n nod ni felly yw sicrhau fod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ar ddechrau’r daith honno – beth bynnag eu cefndir, hil, cred, rhywioldeb, anabledd neu anghenion dysgu. Mae pawb yn perthyn!”
Mae sawl agwedd wahanol i waith Mudiad Meithrin, ac felly mae’r Cynllun newydd wedi ei rannu yn bedwar thema:
Ein gweithlu a’n gweithle
Ein gwasanaethau
Ein lleoliadau
Ein partneriaethau
Meddai Menna Machreth, Prif Swyddog Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb Mudiad Meithrin:
“Mae tipyn o waith i’w wneud, ond rydym yn falch iawn o’r angerdd sydd gan staff Mudiad Meithrin a Chylchoedd Meithrin ledled Cymru i wneud yn siŵr fod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn – nid dim ond i’w lleoliad ond i’w cymuned ac i’r Gymraeg.”
Roedd y digwyddiad yn gyfle hefyd i ddysgu mwy am rai o’r prosiectau a’r datblygiadau sydd wedi deillio yn sgil cyhoeddi’r strategaeth e.e. ymrwymo i ymgyrch dim goddefgarwch tuag at hiliaeth; creu adnoddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth hil, diwylliant, crefydd a gwahaniaethau corfforol.
Un o’r prosiectau hyn yw’r cynllun AwDUra - sef cynllun i fentora 12 o ddarpar-awduron Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrifol i sgwennu llyfrau yn Gymraeg i blant bach. Cyhoeddwyd 3 o’r llyfrau dan y cynllun hwn bellach sy’n gyhoeddiadau pwysig iawn gan eu bod yn cau’r bwlch gwybodaeth sy’n bodoli o ran adnoddau addas Cymraeg ar gyfer plant bach gan wneud i bawb deimlo eu bod yn perthyn i deulu Mudiad Meithrin.
Un o’r llyfrau a gyhoeddwyd yn y gyfres AwDUra yw ‘Granchie a’r Dderwen Fawr’ gan Chantelle Moore - stori i gynhesu’r galon am ddiwylliant, hunaniaeth a dod i delerau â cholled. Roedd Chantelle yn bresennol yn y lansiad i siarad am y profiad o fod yn un o’r awduron newydd ar y cynllun. Bu modd i’r Mudiad ymestyn ar y cynllun hwn yn ddiweddar trwy ennill grant o gronfa Windrush a’u galluogodd i greu fideo o Chantelle yn darllen ei stori, yn ogystal â chomisiynu Nia Morais, Bardd Plant Cymru, i gyfansoddi cerdd yn ymateb i’r stori. Roedd Nia hefyd yn bresennol i ddarllen ei cherdd i Chantelle.
- Popeth6381
-
Newyddion
5951
-
Addysg
2136
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1645
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1018
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
691
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
572
-
Amaethyddiaeth
515
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3