Ken Owens yn ymuno â Staff Hyfforddi Academi Chwaraeon Y Drindod Dewi Sant
Ionawr 27, 2023
Nid yw Ken yn ddieithr i’r Brifysgol, ar ôl derbyn Cymrodoriaeth Anrhydeddus yng Nghaerfyrddin, ei dref enedigol, yn ystod haf 2019. Un diwrnod, nid yn y dyfodol agos gobeithio, bydd Ken yn meddwl am fywyd ar ôl chwarae rygbi, ac yn ddiweddar dechreuodd astudio ar gyfer dyfarniadau hyfforddi Undeb Rygbi Cymru. Yn rhan o’r broses hon, mae’n awyddus i ennill profiad ym maes hyfforddi.
Mae Ken wedi derbyn rôl wirfoddol yn aelod o’r staff hyfforddi gydag Academi Chwaraeon a bydd yn goruchwylio blaenwyr tîm rygbi’r Brifysgol, wrth rannu ei wybodaeth helaeth â’r chwaraewyr.
Cyn i Ken ddechrau ar ei daith yn Gapten ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad, meddai:
“Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i ddechrau ar fy nhaith hyfforddi yn Y Drindod Dewi Sant. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda phawb yn y Brifysgol. Mae’n adeg gyffrous yn yr Academi Chwaraeon, a gobeithio y bydda i’n gallu ychwanegu gwerth at ei datblygiad, a helpu’r myfyrwyr i wireddu eu potensial ar y cae ac oddi arno.”