José Peralta yw Prif Weithredwr newydd Hybu Cig Cymru

Ionawr 16, 2025

Yn dilyn proses recriwtio drwyadl, mae José Peralta wedi’i gyhoeddi fel Prif Weithredwr newydd y corff ardoll cig coch, Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae gan José brofiad helaeth o weithio ar lefel Rheolwr Gyfarwyddwr yn niwydiant cig y DU ers dros 25 mlynedd.

Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr i fusnes cig coch mwyaf ond un y DU dan berchnogaeth Grampian Country Food Group, Vion, a 2 Sisters Food Group. Dan ei arweiniad, roedd gan y sefydliad werthiant blynyddol o dros £500 miliwn, dros 3,000 o weithwyr, chwe safle prosesu dros y DU ac roedd yn un o brif werthwyr cig eidion ac oen yn y DU a thramor tan 2016.

Yn ddiweddarach yn ei yrfa, José oedd Rheolwr Gyfarwyddwr Tulip Food Company. Yn y swydd hon, roedd yn gyfrifol am wyth safle prosesu a gwerthiant blynyddol o dros £500 miliwn o gynnyrch porc gyda gwerth ychwanegol.

Ei swydd ddiweddaraf oedd Prif Swyddog Gweithredol i Puffin Produce yn Sir Benfro, ble’r oedd, ymysg dyletswyddau eraill, yn arwain datblygiad safle poteli llaeth Hufenfa Sir Benfro.

Meddai Cadeirydd HCC, Catherine Smith:

“Mae Bwrdd Hybu Cig Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda José, ac yn hyderus y bydd ei sgiliau arwain eithriadol, a’i brofiad helaeth yn y diwydiant cig coch yn ei wneud yn ymgeisydd delfrydol i arwain HCC, yn y cyfnod nesaf o’i ddatblygiad o fewn diwydiant deinamig sy’n esblygu, wrth barhau i osod ein talwyr ardoll wrth wraidd popeth a wnawn.

“Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad, wrth i ni barhau i dyfu a chryfhau ein brandiau adnabyddus, Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI. Wrth i ni ddod a’r gwaith o weithio ar ein cynllun busnes pum-mlynedd presennol i ben, a dechrau siapio ein gweledigaeth strategol ar gyfer 2026 a thu hwnt, rydym ni’n ymrwymo i greu rhaglen fapio a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy'r diwydiant fel rhan hanfodol o economi bwyd-amaeth Cymru.

“Fe hoffem ni hefyd ddiolch i Heather Anstey-Myers, Prif Weithredwr Dros Dro am ei holl waith caled dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Mae Hybu Cig Cymru yn gorff hyd-braich o Lywodraeth Cymru, ac meddai’r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

“Rwy’n falch bod José Peralta yn ymgymryd â’r swydd bwysig hon. Gyda chefndir cryf yn y diwydiant cig coch, bydd ei brofiad yn amhrisiadwy i symud y sefydliad yn ei flaen, gan wneud yn fawr o bob cyfle ar ran talwyr ardoll a’r diwydiant bwyd-amaeth yn ehangach. Rwy’n hyderus y bydd Hybu Cig Cymru yn parhau â’r rol ganolog o weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i ddarparu dyfodol cynaliadwy i ffermwyr ym mhob rhan o Gymru.”
Gan ystyried ei benodiad, meddai José Peralta:

“Rwy’n edrych ymlaen at gychwyn ar y gwaith yn syth gyda thîm HCC i sicrhau bod y sefydliad yn sefyll gyda’i bartneriaid fel llais cryf i ddiwydiant cig coch Cymru, gan gefnogi ei ddatblygiad a’i hyrwyddo ar ran ein talwyr ardoll.

“Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddaf yn ymgysylltu gyda thalwyr ardoll a phartneriaid ehangach, i ganfod cyfleoedd ar gyfer cydweithio a phartneriaeth er mwyn gwneud y gorau dros ein talwyr ardoll a’r diwydiant yn ehangach.” 

Bydd José Peralta yn dechrau yn ei swydd newydd ar 20 Ionawr 2025.

Mwy

GWELD POPETH

Teuluoedd yn dychwelyd adref diolch ARFOR: menter Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol

Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol

Ymchwil Canser Cymru yn enwi llysgenhadon newydd yr elusen

  • Popeth6387
  • Newyddion
    5957
  • Addysg
    2137
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1646
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1019
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    692
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    574
  • Amaethyddiaeth
    517
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3