Hybu Cig Cymru yn chwilio am aelodau ar gyfer gweithgor newydd
Hydref 25, 2023
Bydd y Gweithgor Arloesedd ac Ymchwil Cynaliadwy newydd yn gyfuniad o Aelodau Bwrdd presennol HCC ac ymgeiswyr newydd a ddewisir drwy broses recriwtio.
Nod y gweithgor hwn yw rhoi arweiniad i HCC ynglŷn â meysydd arloesi, ac ymchwil a datblygu sy'n ymwneud â chynaliadwyedd cyffredinol cynhyrchu cig coch yng Nghymru, gan gwmpasu pob agwedd ar gynhyrchu cig coch cynaliadwy.
Mae HCC yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol mewn meysydd fel geneteg, iechyd a lles, rheoli tir, rheoli tir glas, adnoddau naturiol a meysydd eraill sydd yn ymwneud ag amaethyddiaeth gynaliadwy a chynhyrchu cig coch.
Eglurodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol HCC, Rachael Madeley-Davies: ‘Bydd y Gweithgor newydd hwn yn wirioneddol bwysig i waith HCC, gyda chynaliadwyedd, effeithlonrwydd ac arloesedd i gyd yn uchel ar agenda HCC a’r sector bwyd-amaeth ehangach.’
Mae HCC yn chwilio am unigolion sydd ag arbenigedd a gwybodaeth proffesiynol perthnasol, yn ogystal â dealltwriaeth o’r sectorau amaethyddol a chynhyrchu cig coch yng Nghymru.
Aeth yn ei blaen i ddweud: 'Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael sgiliau, gwybodaeth a phrofiad amrywiol yn y Gweithgor. Felly, er y byddwn yn canolbwyntio ar y sector cig coch yng Nghymru, rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol o’r tu allan i Gymru.
Ychwanegodd Rachael: ‘Mae arloesi ac ymchwil cynaliadwy yn allweddol er mwyn ysgogi effeithlonrwydd a phroffidioldeb i ffermwyr a’r sector cyfan, yn ariannol ac yn amgylcheddol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teimlo y gallan nhw gyfrannu at y maes hwn o waith a thrafodaeth i wneud cais.
Mae modd gwneud cais tan Tachwedd 17. Dylid anfon llythyr eglurhaol a CV gyda phob cais.
Mae'r manylion llawn ar gael ar wefan HCC yma.
- Popeth6260
-
Newyddion
5841
-
Addysg
2125
-
Hamdden
1861
-
Iaith
1631
-
Celfyddydau
1451
-
Amgylchedd
1001
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
680
-
Llenyddiaeth
645
-
Cerddoriaeth
600
-
Arian a Busnes
550
-
Amaethyddiaeth
487
-
Bwyd
448
-
Chwaraeon
366
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
320
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
277
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
176
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
72
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3