Haleliwia! Mae Brigyn yn dathlu 20 mlynedd
Tachwedd 01, 2024
Mae eu sŵn unigryw wedi galluogi iddynt berfformio yn rhai o brif wyliau gwerinol Prydain, o’r Green Man Festival, Bannau Brycheiniog i’r Celtic Connections, Glasgow. Fe enillodd Brigyn wobr am y gân orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn 2011, ac maent yn adnabyddus am eu fersiwn unigryw o “Hallelujah” gan Leonard Cohen, a nifer fawr o alawon cyfoes Cymraeg gwreiddiol.
Rydym wedi curadu Oriel Fideo YouTube ohonynt dros y blynyddoedd.
Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Brigyn wedi rhyddhau 7 albwm llawn, 6 sengl / ep, ac wedi perfformio’n ddi-dor drwy gydol y cyfnod hwn. Mae perthynas arbennig gan y ddau frawd o Eryri, a maen nhw’n edrych ymlaen i ddathlu carreg filltir go arbennig, gyda mwy o gerddoriaeth newydd ar y ffordd.
Meddai Ynyr: “Mae’r siwrne wedi bod yn llawn creadigrwydd, antur ac atgofion gwych - a gorau oll, dwi wedi gallu rhannu hyn gyda’m mrawd! Un peth amlwg am fod yn rhan o brosiect mor gynhyrchiol a phrysur dros ugain mlynedd, yw fy mod yn teimlo ‘mod i’n gyfarwydd â phob rhan o Gymru erbyn hyn drwy’r holl gigs! ‘Da ni wedi dod i adnabod gymaint
- Popeth6384
-
Newyddion
5954
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1645
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
691
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
573
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3