Gwasanaethau 4G a band-eang cyflym ar gyfer Gogledd Cymru
Mai 13, 2024
Er bod buddsoddiad mewn 4G ac yn fwy diweddar 5G wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae bylchau sylweddol o ran cwmpas a chapasiti’r rhwydwaith i gwrdd â gofynion cymunedau yn parhau. Mae cysylltedd symudol gwael yn rhwystredig i drigolion a busnesau ac yn cael ei weld fel rhwystr i dwf, gan roi’r ardal ar y droed ôl wrth ddenu buddsoddiad. Nod prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig) felly yw mynd i’r afael â hyn, drwy wella ansawdd cyswllt symudol mewn ardaloedd masnachol allweddol ac ar hyd rhwydweithiau trafnidiaeth. Ynghyd â gwella darpariaeth y rhwydwaith, mae’r prosiect hefyd am gefnogi’r mudo i 5G, creu swyddi a denu buddsoddiad.
Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw Aelod Arweiniol Cysylltedd Digidol ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Wrth groesawu’r penderfyniad ar yr achos busnes amlinellol ar gyfer y prosiect, dywedodd:
“Mae effaith cysylltedd ffôn symudol ar yr economi yn amlwg i pawb ac ni allwn ei anwybyddu. Mae canol ein trefi a’n dinasoedd, ein parciau busnes a’n cymunedau i gyd angen cysylltedd symudol da, a heb os bydd y galw’n parhau i dyfu fel y mae ar draws gweddill y wlad.
“Mae cymeradwyo’r cam olaf ond un yma yn garreg filltir bwysig i’r cynllun. Yn ogystal â chefnogi strategaethau economaidd cenedlaethol a rhanbarthol, rhaid i’n ymdrechion i wella cysylltedd a chapasiti fod yn ganolog i’n nod o gynyddu GVA lleol a chreu swyddi.”
Mae’r prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig) yn rhan o Raglen Digidol Cynllun Twf Gogledd Cymru, sydd am weld gwasanaethau llais a data symudol yn cael eu cryfhau, ynghyd â band-eang ffibr i safleoedd masnachol allweddol. Mae’n cael ei gefnogi gan y prosiect Ffibr Llawn, sydd am ddod â chysylltedd ffibr cystadleuol i safleoedd allweddol, ynghyd â buddsoddiad diwydiant a llywodraeth y DU.
Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf ac mae pob cynllun busnes yn cynnwys cyfnod cynllunio'r prosiect ac yn adnabod yr opsiynau sy'n sicrhau'r gwerth cyhoeddus gorau yn dilyn gwerthusiadau manwl.
Mae’r penderfyniad yn golygu gallu prosiect symud i’r cam nesaf yn y broses – sef datblygu cynllun busnes llawn er mwyn sicrhau cefnogaeth y Cynllun Twf.
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3