Grantiau i leihau gwastraff ac annog ailddefnyddio
Ionawr 08, 2025
Mewn menter sy’n cael ei reoli gan Menter Môn, y nod yw datblygu'r economi gylchol yng Ngwynedd, gan gefnogi busnesau a sefydliadau i ystyried ffyrdd newydd o gynyddu gwerth eitem neu wasanaeth. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r ymgyrch i annog arloesedd i greu dyfodol carbon isel fwy gwyrdd.
Mae cyllid o hyd at £30,000 ar gael ar gyfer prosiectau i brynu offer neu i ddatblygu mentrau tymor hir. Mae Menter Môn hefyd yn awyddus i bwysleisio bod cynghorwyr wrth law i helpu gyda cheisiadau ac i weithredu'r prosiectau dros y tymor hir.
Elen Parry yw rheolwr prosiect Cylchol Menter Môn, ac mae'n annog busnesau a grwpiau i wneud y mwyaf o'r cyfle hwn. Dywedodd: "Mae posib defnyddio'r grant i ysgogi arloesedd a thwf wrth i ni groesawu egwyddorion yr economi gylchol. Trwy ailfeddwl sut rydym yn defnyddio adnoddau drwy leihau gwastraff, ailddefnyddio deunyddiau, ac ail-bwrpasu cynhyrchion, gallwn greu model busnes mwy cynaliadwy sydd o fudd i'r amgylchedd yn ogystal â'r economi leol. Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu gwerth i'r rhwydwaith o ofodau gwneud FFIWS sydd wedi'u lleoli ar draws Gwynedd, gan ddarparu cyfleoedd i arallgyfeirio eu defnydd a dod â phobl a busnesau i fannau creadigol.
Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer mentrau cymunedol, sefydliadau dielw yn ogystal â busnesau sydd am symud tuag at arferion cynaliadwy.
Ychwanegodd Elen: “Gall y cyllid ddarparu cymorth ariannol i droi syniadau newydd yn weithredoedd, gan alluogi busnesau a grwpiau eraill i fuddsoddi mewn prosesau, technolegau a gwasanaethau sy'n blaenoriaethu cynaliadwyedd. P'un a ydych chi'n lansio menter newydd neu'n ceisio tyfu prosiect sy'n bodoli eisoes, gall y grant hwn fod y cam cyntaf tuag at greu economi fwy effeithlon o ddefnyddio adnoddau.“
Gyda'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn prysur agosáu – gall busnesau a grwpiau sydd â diddordeb ymweld â https://www.mentermon.com/cylchol/ neu cysylltu â cylchol@mentermon.com am wybodaeth bellach.
Bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno eu cais cyn 13 Ionawr, ond, mae tîm Menter Môn ar gael i gefnogi ymgeiswyr unigol. Mae’r tîm yn annog ymgeiswyr sy’n ystyried ymgeisio i gyflwyno datganiad o ddiddordeb drwy'r wefan gyda throsolwg cryno o'r prosiect cyn y dyddiad cau. Ar ôl hyn, bydd tîm y prosiect yn cysylltu ac yn darparu cefnogaeth gyda chais llawn.
- Popeth6384
-
Newyddion
5954
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1645
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
691
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
573
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
456
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3