Gofalwyr maeth Ynys Môn yn croesawu cynllun i gychwyn dileu elw o ofal plant
Chwefror 21, 2025
Daw hyn wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol pwysig Llywodraeth Cymru gychwyn ar y broses o ddileu elw o’r gyfundrefn ofal plant.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu er mwyn dileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.
Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, sy’n cael ei harwain gan bobl sydd â phrofiad o fyw mewn gofal a gofalwyr maeth yr awdurdod lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i gadw cysylltiad â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau, a’u hysgol.
Y llynedd, arhosodd 85% o bobl ifanc sydd â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal leol. Fodd bynnag, dim ond 31% o bobl ifanc sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7% yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*
Dechreuodd Donna, sydd yn ofalwr maeth ar Ynys Môn, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2008. Dewisodd drosglwyddo i Maethu Cymru Môn yn 2020 ac nid yw’n difaru o gwbl.
Eglurodd Donna, “O’r blaen, roedd swyddfeydd yr asiantaeth, hyfforddiant a gweithgareddau y tu allan i’r sir, ac roedd yn golygu llawer o deithio. Roeddwn i hefyd yn gofalu am blant o du allan i’r ardal, a rhai o dros y ffin hyd yn oed. Roedd hyn yn golygu eu bod yn bell oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau – ac wrth gwrs roedd hyn yn anodd. Yma, mae popeth yn lleol. Mae’r gefnogaeth yn wych ac mae popeth gerllaw ar gyfer fi fy hun a’r plant.”
Ychwanegodd, “Rydw i’n falch o ddweud fod fy mhrofiad o faethu gyda’r awdurdod lleol wedi bod yn un cadarnhaol. Buaswn yn ei argymell i unrhyw un. Nid yw bod yn ofalwr maeth yn fêl i gyd ond mae’r da yn sicr yn drech na’r drwg.”
Ymunodd y gofalwyr maeth Dee a Rob Maethu Cymru Môn hefyd yn 2020 ar ôl bron i ddegawd yn maethu gydag asiantaeth faethu fasnachol arall. Dywedodd Dee, “Ers ymuno â thîm Maethu Cymru Môn mae pawb a phopeth sydd ei angen arnom yn agos atom. Mae gennym rwydwaith gymorth wych o’n cwmpas.”
“Bydd fy Ngweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, sydd yn wych, yn galw pryd bynnag y byddaf angen unrhyw beth, ac nid yw’r tîm yn bell i ffwrdd os bydd angen i mi alw yn y swyddfa i’w gweld.”
“Bod yn rhan o gymuned faethu yw’r peth pwysicaf. Mae gennym lais bellach. Mae gennym gefnogaeth o’n cwmpas a gerllaw. Rydym yn rhan o un tîm mawr. Dwi’n difaru peidio â throsglwyddo i’n hawdurdod lleol yn gynharach.”
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant yn y gyfundrefn ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd sydd i gael. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.
Ar hyn o bryd, mae 158 o blant yng ngofal Cyngor Sir Ynys Môn ac mae 107 o’r plant hynny yn derbyn gofal gan ofalwyr maeth y Cyngor. Mae gennym 56 o deuluoedd maeth ac rydym yn ceisio recriwtio 5 teulu arall bob blwyddyn er mwyn diwallu anghenion plant lleol.
Dywedodd Fôn Roberts, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn:
"Mae ein gofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel. Maent yn cefnogi plant sy’n derbyn gofal trwy gynnig eu sgiliau, eu hempathi a’u caredigrwydd er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n saff a diogel. Maent yn cael eu cefnogi gan ein tîm maethu gwobrwyedig yma ar Ynys Môn sydd wedi eu hyfforddi i lefel uchel.
Ychwanegodd, “Un o nifer o fanteision gofal maeth awdurdod lleol yw ein bod yn gallu cynorthwyo ein plant i fyw’n lleol, a chaniatáu iddynt gadw mewn cysylltiad â’u teulu, eu ffrindiau, eu hysgol a’r gymuned.”
Ychwanegodd Dyfed Wyn Jones, Deilydd Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
“Mae ansawdd y gofal a ddarperir gan ofalwyr maeth ymroddedig yr awdurdod lleol heb ei ail. Rydym yn hynod o falch o’n gofalwyr maeth anhygoel sy’n ceisio rhoi dyfodol gwell i blant a phobl ifanc lleol.”
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, fel rhan o dîm profiadol a chefnogol, i gysylltu â Maethu Cymru Môn am sgwrs anffurfiol er mwyn dysgu mwy am ein cymuned faethu leol.”
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3