Galw am ymchwiliad brys i ddatblygu ysgolion Cymraeg
Chwefror 08, 2017
Daw’r galw hwn yn sgil ymateb a gafwyd gan Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg i ymholiad Dyfodol ynglŷn â dyraniad cyllid Ysgolion y 21ain Ganrif i ysgolion Cymraeg fesul sir.
Yn ôl Swyddfa’r Ysgrifennydd Addysg, mae chwech o siroedd, sef Blaenau Gwent, Fflint, Merthyr Tudful, Mynwy, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam, i gyd wedi dewis dyrannu 5% neu lai o’r cyllid ar ysgolion Cymraeg.
Gyda’i gilydd gwariodd y siroedd hyn £286,750,000.00 – mwy na chwarter biliwn o bunnoedd – ar fuddsoddi mewn ysgolion, ond dim ond £2,726,636 ar ysgolion Gymraeg. Gwariodd y Rhondda Cynon Taf £159,291,853 ar ysgolion Saesneg a dim ond £798,147 ar ysgolion Cymraeg.
Ni wariodd Blaenau Gwent, Fflint a Merthyr Tudful ddim ar ysgolion Cymraeg ond gwarion nhw £103,450,000 ar ysgolion Saesneg.
Gan mai’r awdurdodau eu hunain sydd yn pennu’r blaenoriaethau ar gyfer y cyllid hwn, mae’n hynod arwyddocaol bod y 6 awdurdod yn gwario dim, neu’n agos i ddim, o’r arian ar addysg Gymraeg.
Adlewyrchiad truenus
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:“Mae’r ffigyrau hyn yn adlewyrchiad truenus o’r diffyg ymrwymiad sy’n bodoli mewn rhai ardaloedd tuag at ffyniant y Gymraeg. O’r cychwyn, rydym ni fel mudiad wedi bod yn feirniadol o Gynlluniau’r Gymraeg mewn Addysg, a hynny o safbwynt ansawdd rhai o’r Cynlluniau unigol, a’r awydd gwleidyddol i arwain ar eu datblygiad."
Ychwanegodd Heini Gruffudd, "Gyda Strategaeth y Gymraeg yn anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae pawb yn gytûn na ellir gobeithio cyrraedd y nod heb ymrwymiad cadarn i ddatblygu addysg Gymraeg. Mae’r sefyllfa bresennol yn golygu fod yr holl waith dan fygythiad enbyd o’r cychwyn.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru
- Popeth6387
-
Newyddion
5957
-
Addysg
2137
-
Hamdden
1869
-
Iaith
1646
-
Celfyddydau
1465
-
Amgylchedd
1019
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
692
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
574
-
Amaethyddiaeth
517
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
85
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3