Enwau Cymraeg ‘Yr Wyddfa’ ac ‘Eryri’ YN UNIG o hyn ymlaen.

Tachwedd 17, 2022

Mae Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio i ddefnyddio’r enwau Cymraeg Yr Wyddfa ac Eryri YN UNIG o hyn ymlaen.

Mewn cyfarfod o bwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri pleidleisiodd yr Aelodau o blaid arddel yr enwau Eryri ac Yr Wyddfa yn y Gymraeg ac yn y Saesneg fel ei gilydd.  Mabwysiadwyd hefyd ddogfen Egwyddorion Enwau Lleoedd fel canllaw ar gyfer y defnydd o enwau lleoedd o fewn y Parc Cenedlaethol gan yr Awdurdod.

Rhoddodd deiseb a dderbyniwyd yn ôl ym mis Mehefin 2021, ag arni dros bum mil o lofnodion, hwb i Awdurdod y Parc Cenedlaethol i ffurfioli’r defnydd o’r enwau Cymraeg Eryri ac Yr Wyddfa. Dechreuwyd y ddeiseb yn sgil cynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts i’r Awdurdod ollwng y defnydd o’r enwau Saesneg Snowdona Snowdonia. Gwrthodwyd y cynnig ar y pryd ar y sail bod Grŵp Tasg a Gorffen eisoes wedi ei sefydlu gan yr Awdurdod i graffu ar y defnydd o enwau lleoedd.

Comisiynwyd Dr Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd gan y Grŵp Tasg a Gorffen Enwau Lleoedd i lunio cyfres o egwyddorion i’w defnyddio fel canllaw ar gyfer ymdrin ag enwau tirweddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd yr egwyddorion yn gymorth i’r Awdurdod gysoni’r ffordd mae’n ymdrin ag enwau lleoedd.

Mae’r newid i ddefnyddio’r enwau Cymraeg yn y Saesneg wedi dechrau ers rhai blynyddoedd bellach, gyda llawer o gyhoeddiadau a chyfryngau cyfathrebu digidol yr Awdurdod yn arddel yr enwau Yr Wyddfa ac Eryri wrth eu trin a’u trafod yn y Saesneg, gyda chydnabyddiaeth i’r enw Saesneg mewn cromfachau i ddilyn.

Meddai Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Erbyn hyn mae nifer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru’n arddel yr enw Cymraeg a Saesneg, neu’r Gymraeg yn unig, wrth gyfeirio at Yr Wyddfa ac Eryri, ac felly hefyd nifer o’r gweisg Saesneg a chwmnïau ffilmio prif ffrwd. Mae hyn yn hynod galonogol, ac yn rhoi hyder i ni y bydd y newid hwn yn ein hymdriniaeth ni â’r enwau yn cael ei derbyn er budd dyfodol yr iaith Gymraeg a pharch i’n treftadaeth ddiwylliannol.

Mae gennym enwau hanesyddol y ddwy iaith, ond rydym hefyd yn awyddus i ystyried y neges rydym am ei chyfleu am enwau lleoedd, a’r rôl y byddant yn ei chwarae yn ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoes drwy hyrwyddo’r iaith Gymraeg fel un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. Mae pwrpasau’r Parciau Cenedlaethol yn dynodi’r angen i ni warchod a gwella ein treftadaeth ddiwylliannol a rhoi cyfle i bobl ddysgu am a mwynhau’r rhinweddau arbennig. Trwy arddel yr enwau Cymraeg ar ein nodweddion tirweddol mwyaf nodedig rydym yn rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r byd ymgysylltu â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoethog”.

Gan hynny, bydd y symud sydd eisoes ar droed i ddefnyddio enwau Cymraeg ym mhob cyd-destun yn parhau dros amser, wrth i gyhoeddiadau a deunyddiau dehongli’r Awdurdod gael eu diweddaru. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bawb ymgynefino â’r arfer newydd a pharhau i allu dod o hyd i’r wybodaeth y maent eu hangen yn rhwydd.

Mwy

GWELD POPETH

Cwmni Castell Howell yn darparu bwydlen gynaliadwy yng nghinio Nuffield

UAC yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru drwy lansio sticer arbennig ar fêls

Cyngor Môn eisiau cefnogaeth Llywodraeth Genedlaethol am gais Porthladd Rhydd

  • Popeth6065
  • Newyddion
    5683
  • Addysg
    2097
  • Hamdden
    1853
  • Iaith
    1606
  • Celfyddydau
    1435
  • Amgylchedd
    992
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    670
  • Llenyddiaeth
    644
  • Cerddoriaeth
    592
  • Arian a Busnes
    521
  • Amaethyddiaeth
    459
  • Bwyd
    420
  • Chwaraeon
    354
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    302
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    268
  • Ar-lein
    260
  • Eisteddfod yr Urdd
    153
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    59
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Teledu
    5
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3