Entrepreneur o Ynys Môn yn helpu pobl ifanc i aros yn lleol
Ionawr 31, 2025
Yn falch o’i wreiddiau a’i hunaniaeth Gymreig, y cwmni yw’r cyntaf i frandio siocled dyddiol drwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac mae’n frwdrydig am gynnig cyfleoedd i dalent ifanc yr ardal.
Ymunodd Luke Rhodes, 30, â'r cwmni yn ddiweddar fel siocledydd, ac mae ei rôl yn ymwneud â chynhyrchu danteithion melys sy’n cael ei werthu mewn siopau bwyd. Yn flaenorol wedi gweithio fel postmon, daeth Luke o hyd i'r cyfle hwn trwy elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol, cynllun sy'n hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a chymdeithasol yn ardal Arfor.
Mae’r cymhelliad Gyrfaol yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru rhwng Cynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn. Ei nod yw creu cyfleoedd yng nghadarnleoedd y Gymraeg drwy brosiectau mentergarwch a datblygu economaidd.
Meddai Luke, "Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni ers haf diwethaf, ac yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi dysgu cymaint am y sector a'r busnes. Dechreuais weithio ar safle Melin Llynon, gan helpu gyda chreu Môn-nuts, cyn symud yn ddiweddar i'r Ffatri Siocled. Mae gallu gweithio'n agos i adra a dysgu am wahanol rannau o gynhyrchu bwyd wedi bod yn gyfle gwych i mi.
"Roeddwn i'n meddwl o'r blaen mai dim ond mewn trefi neu ddinasoedd oedd gwaith fel hyn ar gael. Roedd gen i'r syniad y byddai'n rhaid i mi ddewis rhwng fy ngyrfa neu gallu byw adra. Rwy'n ddiolchgar i allu gwneud y ddau ar yr un pryd."
Hyd yn hyn, mae dros 56 o bobl ifanc wedi elwa o fenter Llwyddo'n Lleol ar draws siroedd Arfor. Yn ogystal a chael cyfleoedd gyrfa proffesiynol, mae wedi caniatáu iddynt weithio mewn sectorau unigryw ac amrywiol. Nod y cynllun yw annog pobl ifanc i aros, byw a gweithio yn yr ardaloedd hyn, sy'n aml yn gweld canran uchel o'u talent ifanc yn gadael i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith.
Yn frwd dros gynnig cyfleoedd yn lleol, mae Richard wedi bod yn eiriol dros gymunedau Cymreig ers tro byd ac yn adnabyddus am ei fentrau entrepreneuraidd. Yn ogystal â’r ffatri siocled, mae hefyd yn gyfrifol am ddiogelu’r felin wynt olaf sy’n gweithio yng Nghymru, mae’n awdur llyfr i blant, Elin a’r Felin, ac yn greawdwr toesenni crefftus unigryw, Mônuts. Bu Richard hefyd yn cyflwyno cystadleuaeth deledu coginio ar S4C o'r enw Academi Felys ac yn ddiweddar agorodd ystafell ddianc o'r enw 'Fix the Factory'. Meddai, "Rwy'n falch iawn o gael Luke i ymuno â'r tîm. Mae cefnogaeth Llwyddo'n Lleol wedi bod yn allweddol i gynnig y cyfle hwn, ac mae'n wych cefnogi person ifanc sydd eisiau aros yn ei ardal leol.”
“Ar ôl agor y drysau i’n Ffatri Siocled yn ddiweddar, dwi’n edrych ymlaen i weld sut y gallwn ni nawr dyfu fel busnes a chynnig mwy o’r cyfleoedd hyn i bobl leol, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig fel Ynys Môn.”
Mae cwmni Mr Holt’s Chocolate yn un o'r nifer o fusnesau sydd wedi elwa o fenter Gyrfaol Llwyddo'n Lleol. Yn ogystal â chyfleoedd proffesiynol, mae cyfranogwyr yn cael cyfleoedd cymdeithasol sy'n anelu at amlygu ansawdd bywyd yn yr ardal.
Am fwy o fanylion neu i ddarganfod sut mae Llwyddo'n Lleol yn gwneud gwahaniaeth ewch i: llwyddonlleol2050.cymru
- Popeth6397
-
Newyddion
5966
-
Addysg
2139
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1650
-
Celfyddydau
1466
-
Amgylchedd
1021
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
576
-
Amaethyddiaeth
518
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
86
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3