Enillydd cystadleuaeth cywain yn gobeithio dod รข Chaws Caerffili 'gartref'

Rhagfyr 08, 2022

chwith i'r dde) Sara Jenkins o Llaeth Teulu Jenkins Milk; Huw Rowlands o Gwmni Caws Caerffili; Personoliaeth Teledu Cymru a sylfaenydd Brybeque Sauce, Huw Bryant; a Nia Griffith o Fenter a Busnes
Mae cynlluniau ffermwr ifanc i adfywio gwneud caws Caerffili yn ei leoliad traddodiadol wedi cael hwb trwy ennill pecyn o gymorth busnes wedi'i deilwra gan Menter a Busnes.

Fe wnaeth Huw Rowlands o Gwmni Caws Caerffili syfrdanu'r beirniaid gyda'i syniad arloesol a'i graffter busnes. Bydd yn derbyn £1,000 gan Menter a Busnes a phecyn o gymorth gan Cywain i ddatblygu'r busnes gwneud caws.

Dywedodd Huw, “Rydw i wrth fy modd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Menter a Busnes am y cyfle ysgoloriaeth, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu'r busnes ymhellach gyda chefnogaeth Cywain.”

Gyda'i bartner busnes, Deian Thomas, mae Huw yn bwriadu ail-danio traddodiad lleol o wneud caws a rhoi cyfle i ffermwyr llaeth ychwanegu gwerth at eu llaeth. Yn aelod o CFfI Gelligaer, mae gan Huw, sy'n 25 oed, gefndir yn y sector bwyd ac mae'n dod o deulu ffermio sydd â phrofiad mewn gwneud caws. 

Datblygwyd Caerffili, caws caled, briwsionllyd, gwyn yn wreiddiol ar gyfer glowyr yr ardal wrth iddo aeddfedu'n gyflymach na cheddar. Ymysg amcanion Cwmni Caws Caerfilli fydd hyrwyddo treftadaeth y caws a'r iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fusnesau eraill sy'n gwneud y caws byd-enwog yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Meddai Huw, “Mae dod â chynhyrchu Caws Caerffili yn ôl i'r ardal yn hanfodol i hanes y cynnyrch a hefyd twristiaeth yr ardal. Rydym yn gweld miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn yn dod i Gaerffili ond nid oes busnes wedi'i leoli yn y sir sy'n creu rhywbeth y mae'r ardal yn adnabyddus amdano. Mae wedi bod yn llawer o waith a nosweithiau hwyr i gyrraedd y pwynt hwn, ond rydym yn falch o ddweud bod caws Caerffili yn dod gartref.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Menter a Busnes, Manon Llwyd Rowlands, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda CFfI Cymru unwaith eto ar y gystadleuaeth werthfawr hon. Mae'r gystadleuaeth wedi datblygu'n naturiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae'n wych ei gweld yn ffurfio ysgoloriaeth a fydd yn caniatáu i ymgeisydd teilwng sydd â gwir angerdd, egni a syniad hyfyw ddilyn gyrfa yn y Diwydiant Bwyd a Diod.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed am ddatblygiad Cwmni Caws Caerfilli wrth dderbyn mentora a chymorth busnes gwerthfawr trwy brosiect Cywain wrth iddynt ffurfioli a sefydlu'r busnes.”

Cynhaliwyd y rownd gyntaf o feirniadu ar lefel Ffederasiwn Sirol CFfI, gyda'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cael eu cyflwyno gan banel beirniadu yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Roedd y panel beirniadu yn cynnwys Huw Bryant - Personoliaeth Teledu Cymru a sylfaenydd Brybeque Sauce - a Sara Jenkins o Llaeth Teulu Jenkins Milk, a ddywedodd eu bod wedi eu plesio'n fawr gydag “ymroddiad ac angerdd” Huw am ei gaws.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i aelodau clwb CFfI rhwng 16 a 28 oed, a chafodd yr ymgeiswyr y dasg o greu cynllun busnes ar gyfer busnes newydd — neu sydd eisoes yn bodoli — cychwyn busnes o fewn y diwydiant bwyd a diod. Gallai aelodau gystadlu fel unigolion neu, os ydynt yn bwriadu gweithio mewn partneriaeth, fel grลตp.

Roedd yn rhaid i'r cynlluniau gynnwys disgrifiad cynnyrch, ei wahaniaethwyr, strategaethau marchnata a chynigion ar gyfer twf yn y dyfodol. Roedd yn ofynnol hefyd i'r ymgeiswyr nodi sut y byddent, os yn llwyddiannus, yn dyrannu'r wobr ariannol o £1,000 er mwyn datblygu eu cysyniad, cynnyrch neu fusnes fel menter hyfyw yn y dyfodol.

Hefin Evans, Cadeirydd CFfI Cymru, “Mae'n bleser mawr bod CFfI Cymru a Menter a Busnes yn cydweithio eto i helpu aelodau yng nghyfnod cychwynnol neu ddatblygol eu busnes bach. Bydd y fentoriaeth y mae Cywain yn ei darparu yn gaffaeliad mawr i'r aelodau gyda'u busnesau wrth symud ymlaen yn y dyfodol.”

Wedi'i ddylunio a'i ddatblygu gan Menter a Busnes, mae prosiect Cywain yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod ledled Cymru, gan eu helpu i dyfu ac adeiladu eu busnesau gyda chefnogaeth mewn ystod o feysydd, gan gynnwys marchnata, datblygu brand a chyllid ac yn cael ei hwyluso gan rwydwaith o reolwyr datblygu ledled Cymru.

Gall Cwmni Caws Caerfilli nawr wireddu eu cynllun busnes a datblygu eu gwybodaeth fusnes trwy gymorth gan Cywain gan gynnwys amser gyda mentoriaid arbenigol, cael mynediad i weminarau, gweithdai a Theithiau Astudio - y cyntaf ohonynt gyda Cywain yn y Ffair Wanwyn 2023. 

Mwy

GWELD POPETH

Stori epig Branwen yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled cymru mewn sioe gerdd gymraeg newydd

Cyhoeddi Arweinwyr FFIT Cymru 2023

Premier byd gwirfoddoli gyda'r Papurau Bro

  • Popeth6119
  • Newyddion
    5731
  • Addysg
    2103
  • Hamdden
    1856
  • Iaith
    1609
  • Celfyddydau
    1443
  • Amgylchedd
    994
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    675
  • Llenyddiaeth
    644
  • Cerddoriaeth
    597
  • Arian a Busnes
    533
  • Amaethyddiaeth
    468
  • Bwyd
    434
  • Chwaraeon
    357
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    302
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    268
  • Ar-lein
    260
  • Eisteddfod yr Urdd
    153
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    65
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    7
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3