Elusen ymchwil canser Gymreig yn gofyn i Gymru uno yn erbyn canser

Medi 05, 2024

Mae elusen Gymreig yn gofyn i bobl Cymru ddangos eu bod yn sefyll yn unedig yn erbyn canser ar ddydd Gwener 20 Medi drwy wisgo dillad streipiog. 

Nôd yr ymgyrch Dangosa dy Streips yw ariannu gwaith ymchwil canser arloesol yr elusen Ymchwil Canser Cymru yma yng Nghymru.

Mae'r ymgyrch wedi'i hysbrydoli gan logo stribedog yr elusen sy'n seiliedig ar geliau DNA y mae gwyddonwyr yn eu defnyddio i ddod o hyd i gelloedd canser.

Gall pobl hefyd gymryd rhan gyda Dangosa dy Streips trwy bostio lluniau ohonyn nhw eu hunain yn eu dillad streipiog ar y cyfryngau cymdeithasol ar 20 Medi a defnyddio'r hashnod #DangosaDyStreips

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:

"Ymchwil Canser Cymru yw'r elusen ymchwil canser Gymreig annibynnol a'n cenhadaeth yw uno Cymru yn erbyn canser trwy ymchwil o'r radd flaenaf.

"Heddiw, rydym yn galw ar bobl Cymru i'n cefnogi trwy ymuno â Dangosa dy Streips yn yr ysgol, yn y gwaith neu gyda'u ffrindiau ar 20 Medi.

"Mae'n hawdd ei wneud - gwisgwch eich sanau streipen gorau, eich hoff grys-t streipiog, eich siwmper streipiau mwyaf lliwgar, eich hetiau beanie neu sgarff streipiog ac uno â ni yn erbyn canser.           

“Gallwch hefyd gyfrannu £1 neu faint bynnag yr hoffech chi i Ymchwil Canser Cymru ac ymuno yn yr hwyl ar-lein trwy bostio lluniau ohonoch yn eich hoff ddillad streipiog a defnyddio'r hashnod #DangosaDyStreips.

"Bydd 1 o bob 2 ohonom yn datblygu canser a phob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli annwylun i ganser, felly helpwch ni i ddarparu gobaith i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser yng Nghymru trwy gymryd rhan yn Dangosa dy Streips ar 20 Medi."

Am fwy o fanylion am Dangosa dy Streips, ac i gofrestru am becyn Dangosa dy Streips ewch i www.ymchwilcanser.cymru

Mwy

GWELD POPETH

Mentera yn meithrin cefnogaeth ar gyfer maethu

Llwyfan i bobl ifanc Môn i leisio barn am newid hinsawdd

Cymro o Gaerfyrddin yn creu llwyfan digidol arloesol i wella addysg cyfrwng Gymraeg

  • Popeth6381
  • Newyddion
    5951
  • Addysg
    2136
  • Hamdden
    1869
  • Iaith
    1645
  • Celfyddydau
    1465
  • Amgylchedd
    1018
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    691
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    572
  • Amaethyddiaeth
    515
  • Bwyd
    456
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    85
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3