Elis Derby yn rhyddhau sengl newydd
Mai 26, 2022
Bydd Elis Derby yn rhyddhau sengl newydd Lawr ar Fy Nghwch ar label Recordiau Cosh ar y 3ydd o Fehefin.
Bydd y sengl hon yn rhan o'i drydydd albym sydd yn cael ei chymysgu yn Stiwdios Sain ar hyn o bryd.
Mae naws o angen dianc yn 'Lawr ar fy Nghwch' ac mae'n disgrifio’r teimlad o'r angen i gael lle i fynd pan fydd pethau'n mynd yn ormod. Wedi’i cyd ysgrifennu gan Gethin Griffiths, sy’n rhan o’r band Ciwb efo Elis, ac mae’r artist wedi dogfennu’r broses, o greu’r demo drwadd i recordio’r gân gorffenedig. “Mae’r cwch yn metaffor am be bynnag da chi’n cael cic allan ohonno fo fel modd o deimlo’n well am rhywbeth” meddai Elis.
Mae gan y gân atgof o steil a dyfeisgarwch Endaf Emlyn, tôn fyddai’n anhebyg o ddod o unrhywle arall yn y byd heblaw’r Felinheli – y pentref porthladd hardd ar y Fenai.
Bydd Elis yn chwarae mewn nifer o gigs dros yr haf a bydd yr albym yn dod allan yn fuan! - Castell Aberteifi - 28/05,
- Gwyl Bethel (ger Caernarfon) - 11/06,
- Tafarn Y Plu, Llanystumdwy - 01/07
- Popeth5926
- Newyddion 5567
- Addysg 2074
- Hamdden 1851
- Iaith 1576
- Celfyddydau 1419
- Amgylchedd 982
- Gwleidyddiaeth 931
- Iechyd 664
- Llenyddiaeth 644
- Cerddoriaeth 587
- Arian a Busnes 502
- Amaethyddiaeth 435
- Bwyd 405
- Chwaraeon 347
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 291
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg 261
- Ar-lein 260
- Eisteddfod yr Urdd 152
- Hyfforddiant / Cyrsiau 50
- Cystadlaethau 47
- Barn 15
- Adolygiadau Llyfrau 13
- Papurau Bro 13
- Adolygiadau Cerddoriaeth 6
- Llythyron 3