Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi gŵyl saith diwrnod
Mai 30, 2025
Mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu, ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau, mae’r Urdd wedi cyhoeddi bwriad i ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:
“Mae Eisteddfod yr Urdd yn ŵyl sy’n esblygu ac yn gwrando ar ein haelodau. Mae mwy o gofrestriadau i gystadlu nag erioed o’r blaen a galw am gystadlaethau llwyfan ychwanegol, ac rydym mor falch o weld yr effaith gadarnhaol mae’r ŵyl yn ei gael drwy gynyddu’r cyfleoedd i ymwneud â’r Gymraeg tu allan i’r ystafell ddosbarth.
“Felly i sicrhau ein bod ni’n parhau i fod yn fudiad cynhwysol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, byddwn yn ehangu’r Eisteddfod i ŵyl saith diwrnod.”
Bydd y cystadlu yn dechrau ar ddydd Sadwrn y Sulgwyn (23 Mai 2026) ac yn rhedeg tan y dydd Gwener (29 Mai 2026). Bydd y bartneriaeth ddarlledu yn parhau gydag S4C a BBC Radio Cymru.
Bydd yr Urdd yn ymgynghori a chydweithio gydag aelodau, aelwydydd, canghennau a phwyllgorau lleol i sicrhau bod y trefniadau’n cynnig mwy o gyfleoedd nag erioed i gymryd rhan, yn ogystal â thrafod gyda phartneriaid a stondinwyr y maes. Mae’r mudiad yn gwahodd adborth ar y datblygiad drwy lenwi ffurflen ar eu gwefan ac yn cwrdd ag aelodau a rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf. Bydd y trefniadau terfynol yn cael eu cadarnhau adeg cyhoeddi Rhestr Testunau 2026 yn yr hydref.
Meddai Arwel Gruffydd, Cadeirydd Bwrdd Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:
“Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf o lwyddiant ac apêl Eisteddfod yr Urdd fel gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop. Ein nod yw parhau i gynnig cyfleoedd amhrisiadwy i aelodau’r Urdd, ac adlewyrchu Cymru a’i hamrywiaeth drwy ymestyn allan i gynulleidfaoedd newydd.”
Mae’r Urdd wedi derbyn cefnogaeth frwd gan y Pwyllgor Gwaith lleol. Meddai Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, Manon Wyn Williams:
“Mae’r cynnydd blynyddol o ran y nifer sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn galonogol iawn ac yn golygu bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd amhrisiadwy drwy’r mudiad.
“Mae’r diolch am hynny i waith diflino hyfforddwyr, athrawon, gwirfoddolwyr a staff gweithgar yr Urdd ledled Cymru. O ganlyniad, mae ymestyn hyd yr Eisteddfod i saith niwrnod yn ddatblygiad hanfodol a chyffrous. Mae’n fraint ein bod ni ym Môn yn cael croesawu’r Eisteddfod arbrofol hon ac mae’n gyfle i edrych o’r newydd ar strwythur yr ŵyl gan gydweithio â phlant a phobl ifanc Cymru wrth wneud hynny. Mae yna hen edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Fam Ynys ymhen blwyddyn!”
Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
“Rydym yn edrych ymlaen i barhau i gydweithio’n agos fel partner i’r Urdd gan ddarlledu cyffro’r cystadlu a maes yr Eisteddfod fel arfer ar ein platfformau.”
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3