Eisteddfod yr Urdd 2026 i’w chynnal ar Gae Sioe Môn

Ebrill 22, 2024

Heddiw (22 Ebrill) cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru mai Cae Sioe Môn ger Gwalchmai, Ynys Môn fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2026. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yno rhwng 25 a 31 Mai 2026.

Meddai Manon Wyn Williams, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2026: “Mae ugain mlynedd ers y cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn ddiwethaf, felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei chroesawu eto yn 2026. Mae’r paratoadau wedi dechrau a’r pwyllgorau wedi eu sefydlu ac mae gennym griw arbennig o wirfoddolwyr gweithgar a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad hyd yma. Nid mater bach yw cynnal gŵyl genedlaethol fel hon ac mae llawer o waith i’w wneud eto dros y ddwy flynedd sydd i ddod.

“Y cam nesaf yw sefydlu’r pwyllgorau apêl ymhob cymuned ledled yr Ynys a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian. Byddai’n wych gweld cynifer â phosibl yn ymuno â’r pwyllgorau hyn a hoffem weld holl blant a phobl ifanc yr Ynys yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r trefniadau er mwyn sicrhau y bydd hi’n Eisteddfod i’w chofio – mae croeso i bawb.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Braf iawn yw clywed fod Cae Sioe Môn wedi ei ddewis yn gartref i Eisteddfod yr Urdd 2026. Mae’r Ynys a’i thrigolion yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnal yr ŵyl arbennig yma. Bydd yn gyfle i ddathlu ac ymfalchïo yn ein Cymreictod ac i estyn croeso cynnes i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i’n Sir ni. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Urdd er mwyn sicrhau bod ni’n gwneud y mwyaf o’r cyfle rhagorol yma i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau.”

Mae Eisteddfod yr Urdd yn galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026. Bydd y Llywyddion y Dydd yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy’n cynrychioli’r ynys ac yn esiampl i blant a phobl ifanc heddiw. Bydd y Llywyddion Anrhydeddus yn unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi.

Mae gwybodaeth bellach am sut i gofrestru i wirfoddoli ynghyd â ffurflenni enwebu Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus ar gael ar wefan Eisteddfod yr Urdd.

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 ar Fferm Mathrafal ger Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin. Parc Margam fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2025 wrth i’r ŵyl ddychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003.

Mwy

GWELD POPETH

Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C

Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Anna Bowen i arwain Rhaglen Hŷn 2025

  • Popeth6408
  • Newyddion
    5976
  • Addysg
    2140
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1653
  • Celfyddydau
    1468
  • Amgylchedd
    1023
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    578
  • Amaethyddiaeth
    522
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    91
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3