Eisteddfod Genedlaethol 2025 i'w chynnal yn Wrecsam
Awst 01, 2023
Cynhaliwyd yr ŵyl ddiwethaf yn yr ardal yn 2011, ar dir amaethyddol i’r gorllewin o ganol y ddinas, ac mae trafodaethau’n parhau rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor ynglŷn â’i hunion leoliad yn 2025.
Bydd ymgyrch yr Eisteddfod yn cael ei lansio ym mis Medi, gyda phrosiect cymunedol llawr gwlad dros ddwy flynedd yn cyfuno digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a chodi arian gyda phrosiect micro-leol, gyda’r nod o ddenu grwpiau lleol ac unigolion i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ar gyfer yr ŵyl ei hun, a dysgu mwy am ein hiaith, a'n diwylliant.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg Cyngor Wrecsam, “Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn un o wyliau diwylliannol mawr y byd, a’r ŵyl gystadleuol fwyaf o gerddoriaeth a barddoniaeth yn Ewrop.
“Mae pawb yn gwybod bod yna wefr yn ein dinas ar hyn o bryd, ac mae hwn yn mynd i fod yn gyfle gwych i groesawu pobl o bell ac agos i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.
“Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yma yn 2011 roedd yn llwyddiant ysgubol a chafodd effaith gadarnhaol ar gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd 2025 hyd yn oed yn well, a bydd llygaid Cymru – a llawer o’r byd – unwaith eto wedi’u gosod yn gadarn ar ein dinas fendigedig.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Wrecsam ymhen dwy flynedd. Mae llawer wedi newid yn y ddinas dros y pymtheg mlynedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o stori Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.
“Rydym hefyd yn teimlo’n llawn cyffro am gael dod i adnabod cenhedlaeth newydd o drigolion Wrecsam. Roedd gennym dîm ardderchog o wirfoddolwyr ar draws yr ardal nôl yn 2011, ac rydym yn awyddus i ddenu cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn ein prosiectau y tro hwn wrth i ni baratoi ar gyfer gŵyl wych ym mis Awst 2025. Wrecsam yw'r lle i fod y dyddiau hyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweithio’n lleol yn y gymuned am y ddwy flynedd nesaf.”
Bydd manylion y lansiad yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Medi, gyda’r prosiect ei hun, a’r gwaith o greu’r Rhestr Testunau ar gyfer 2025, yn dechrau ym mis Hydref. Mwy o fanylion ar gael ar-lein yn fuan, www.eisteddfod.cymru.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3