Dyn o Fôn yn cerdded i Base Camp ar gyfer elusen iechyd meddwl

Mai 14, 2024

Fe aeth Ioan Rhun Jones, 18, ar daith 5,364 medr i Base Camp Everest er mwyn codi arian i'r elusen iechyd meddwl Shout yn ddiweddar. Pwrpas ei daith oedd  codi arian ac ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ymysg pobl ifanc a  hyrwyddo pwysigrwydd  siarad am broblemau a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Bedair blynedd yn ôl, collodd Ioan a'i frawd Llion eu tad i hunanladdiad. Dywedodd: "Cafodd colli fy nhad effaith enfawr arna i, ac roeddwn i'n cael trafferth siarad am y peth. Fe ddigwyddodd hyn yn ystod y pandemig hefyd, wnaeth pethau’n anoddach.

"Mae elusennau fel Shout yn anhygoel. Dyma'r unig wasanaeth tecst sydd am ddim, yn gyfrinachol ac yn fyw 24/7 i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda’i iechyd meddwl. Roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth am yr elusen hon ond hefyd annog pobl ifanc i chwilio am gymorth os ydyn nhw'n cael trafferth. Ers dychwelyd o’r daith, dwi wedi cael cynnig i siarad mewn digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am y materion hyn, sydd wedi bod yn wych.

“Rydw i’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at yr achos. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi codi £5,060, a dwi’n gobeithio gallwn barhau i godi mwy. Roedd yn gyfle anhygoel i heicio i Base Camp, mi fydd yn daith na wna i byth anghofio."

Mae ei fam, Kelly Jones, yn falch iawn o'i mab. Dywedodd: "Mae Ioan yn ysbrydoliaeth - allwn i ddim bod yn fwy balch ohono. Mae wedi gallu canolbwyntio ar rywbeth positif i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl pobl iau, sy'n anhygoel."

Mae R J Hughes, trefnwyr angladdau lleol yn Llangefni ac Amlwch, hefyd yn angerddol am godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ac yn falch o fod wedi cefnogi Ioan ar ei daith. Dywedodd Arwel Hughes, sylfaenydd a pherchennog y busnes: "Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith y gall hunanladdiad gael ar deuluoedd a chymunedau.

"Mae hwn yn bwnc sy'n agos at galon ein tîm, ac rydym yn credu y gall cefnogi straeon fel Ioan a'i dad wneud gwahaniaeth sylweddol.

“Rydyn ni’n  gobeithio y bydd hyn yn codi ymwybyddiaeth o fewn y gymuned ac yn normaleiddio'r sgyrsiau agored gyda theulu a ffrindiau."

I ddarllen mwy am daith Ioan neu i gyfrannu: Ioan Jones yn codi arian i Shout (justgiving.com

Mwy

GWELD POPETH

£19m i ddiogelu sector twristiaeth Gogledd Cymru at y dyfodol 

Cyswllt Ffermio yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth

Môn yn arwain y ffordd wrth fesur defnydd iaith

  • Popeth6397
  • Newyddion
    5966
  • Addysg
    2139
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1650
  • Celfyddydau
    1466
  • Amgylchedd
    1021
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    576
  • Amaethyddiaeth
    518
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    86
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3