Dros 80,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn Eisteddfodau’r Urdd
Ebrill 03, 2025
Yn ogystal â diolch i’r cystadleuwyr, athrawon a’u hyfforddwyr, mae’r Urdd yn datgan diolch i’r miloedd o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i sicrhau llwyddiant yr holl Eisteddfodau lleol a rhanbarthol.
Cynhelir rowndiau terfynol y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 ym Mharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, yn ystod hanner tymor mis Mai (26-31 Mai).
Mae Parc Gwledig Margam yn atyniad lleol poblogaidd sy’n adnabyddus am erddi hardd, castell hanesyddol a pharcdir eang. Yn ddiweddar fe’i henwebwyd yn un o lecynnau glas mwyaf trawiadol Prydain yn 2024, a dathlodd 11 mlynedd o’r bron o gael ei gynnwys yng ngwobr arwyddocaol Dewis y Bobl. Bydd y parc, sydd hefyd wedi derbyn dyfarniad statws achrededig Safle Treftadaeth Baner Werdd, yn cael ei drawsnewid yn ardal fywiog ar gyfer plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt ar gyfer wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:
“Ry’n ni’n ymfalchïo mewn gweld cynnydd yn ein cystadleuwyr ar draws Cymru unwaith eto eleni. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddathliad o ddoniau di-ri ein plant a’n pobl ifanc, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a chynnal y Gymraeg ynghyd â’r celfyddydau yng Nghymru. Diolch i bawb am gymryd rhan, a llongyfarchiadau i’r rheiny sydd drwodd i’r Genedlaethol – welwn ni chi ym Margam!”
Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Llesiant: “Mae’n wych clywed fod mwy o blant a phobl ifanc o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot wedi cystadlu mewn Eisteddfodau lleol nag erioed o’r blaen – a mwy nag unrhyw ranbarth arall yng Nghymru eleni. Edrychwn ymlaen at groesawu’r holl ymwelwyr i’r lleoliad rhagorol hwn, ac i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant!”
Mynediad am ddim i deuluoedd incwm is i Eisteddfod yr Urdd 2025
Diolch i gefnogaeth ariannol o £200,000 gan Lywodraeth Cymru mae’r Urdd eisoes wedi cadarnhau y bydd teuluoedd incwm is yn medru hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni.
Mae tocynnau mynediad i’r Maes bellach ar werth a thocynnau cyw cynnar ar gael tan 1 Mai. Bydd modd i deuluoedd incwm is hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd fel a ganlyn:
Trwy gynllun Aelodaeth £1 yr Urdd. Bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau.
Trwy wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf wrth hawlio tocynnau. Bydd manylion llawn y meini prawf ar gael ar y wefan.
Yn arwain at yr Eisteddfod, bydd yr Urdd yn cyd-weithio â Chyngor Castell-Nedd Port Talbot, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadu sydd yn cefnogi teuluoedd incwm isel i sicrhau fod y wybodaeth yn cyrraedd pobl gall elwa o’r cynllun.
Mae modd prynu tocynnau neu hawlio tocyn mynediad am ddim i’r ŵyl drwy fynd i www.urdd.cymru/eisteddfod.
- Popeth6403
-
Newyddion
5971
-
Addysg
2140
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1652
-
Celfyddydau
1467
-
Amgylchedd
1023
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
693
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
578
-
Amaethyddiaeth
519
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
88
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3