Datgelu tymor agoriadol ar gyfer lleoliad Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Rhagfyr 09, 2022
Gyda lein-yp pryfoclyd, llawen a gwyllt o bryd i’w gilydd, bydd Cabaret yn ofod diogel lle y gall pawb fynegi a mwynhau eu hunain. Mae tocynnau ar werth nawr yn wmc.org.uk/cy/cabaret
Mae tymor agoriadol Cabaret yn cynnwys cydweithrediadau lleol â Chlwb Cabaret Caerdydd, Glitter Cymru a The Queer Emporium, yn ogystal ag actau teithiol poblogaidd fel Big Band Burlesque a Paulus sy’n adnabyddus o’r teledu ac sy’n dathlu cerddoriaeth Victoria Wood.
Bydd gwaith Canolfan Mileniwm Cymru ei hun hefyd yn cael ei weld ar y llwyfan. Mae sioe deimladwy Luke Hereford Grandmother’s Closet yn dychwelyd yn dilyn rhediad arobryn yng Ngŵyl Caeredin, a bydd sioeQueerway – a gynhyrchir gan Leeway Productions gyda chefnogaeth gan Theatrau RhCT a Chanolfan Mileniwm Cymru – sy’n adrodd straeon bywyd pobl LHDTC+ o Rondda Cynon Taf yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf.
Bydd Cwm Rag, haid o berfformwyr drag LHDTC o Gymru, yn dathlu ac yn cwestiynu beth yw ystyr bod yn Cwiar ac yn Gymreig yn eu sioe ddwyieithog, a bydd Steffan Alun, y cyfieithydd sydd bellach yn ddigrifwr, yn cyflwynoComedy Translates i gynulleidfaoedd Caerdydd – noson gomedi ddwyieithog (mewn ffordd) sy’n cynnwys rhai o berfformwyr gorau y byd comedi Cymraeg.
Bydd perfformiadau matinee ymlaciedig ar gael i bobl sy’n byw gyda dementia ar gyfer Grandmother’s Closet a Judy & Liza, sioe gerdd syfrdanol sy’n adrodd stori gythryblus hoff fam a merch Hollywood. Bydd mamau, merched a phobl sy’n cael mislif hefyd yn cael eu haddysgu a’u diddanu gyda Blood, Glorious Blood!, sioe sy’n chwalu tabwau ac yn dathlu’r mislif.
Mae’r rhaglen wedi cael ei churadu gan y cynhyrchydd Peter Darney, sydd eisoes wedi creu dwy sioe cabaret Nadoligaidd i oedolion a werthwyd allan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – XXXmas Carol (2021) a The Lion, the B!tch and the Wardrobe (2022).
Dywedodd Peter Darney: “Gyda Cabaret roedden ni am greu rhaglen mor amrywiol â phosibl a gwneud yn siŵr bod popeth yn fforddiadwy yn ystod cyfnod mor anodd. Mae’n mynd i fynd yn wyllt, yn bryfoclyd ac yn hwyliog.
“Mae noson Bhangra, perfformiadau sy’n ystyriol o ddementia a rhywbeth i bobl ifanc a phobl ifanc eu hysbryd. Rydyn ni am greu cymuned arbennig yma yn Ne Cymru – gofod diogel lle y gallwch chi fod yn chi eich hun, darganfod eich hun ac ymgolli eich hun.”
Mae Cabaret yn rhan o waith trawsnewid parhaus Canolfan Mileniwm Cymru i fod yn hwb creadigol i bawb. Bydd lle i tua 120 o bobl yn y lleoliad pwrpasol a bydd yn cyflwyno talent ddatblygol ac eclectig fel nunlle arall yng Nghymru, gan ddod ag ychydig o ysbryd Soho i Fae Caerdydd.
Mae’r lleoliad wedi cael ei ddylunio fel bod pawb yn teimlo’n gartrefol gyda chyfleusterau hygyrch a niwtral o ran rhywedd.
Mae prisiau digwyddiadau yn amrywio o £7 i £20, ac mae tocynnau gostyngedig ar gael i bobl sy’n byw gydag anabledd, myfyrwyr, pobl o dan 30 oed a phobl ddigyflog. Gellir gweld manylion llawn y tymor ynwww.wmc.org.uk/cy/cabaret.
- Popeth6119
-
Newyddion
5731
-
Addysg
2103
-
Hamdden
1856
-
Iaith
1609
-
Celfyddydau
1443
-
Amgylchedd
994
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
675
-
Llenyddiaeth
644
-
Cerddoriaeth
597
-
Arian a Busnes
533
-
Amaethyddiaeth
468
-
Bwyd
434
-
Chwaraeon
357
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
302
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
268
-
Ar-lein
260
-
Eisteddfod yr Urdd
153
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
65
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
7
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
3
-
Llythyron
3