Datgelu Artistiaid Sesiwn Fawr Dolgellau 2024

Chwefror 28, 2024

Cyhoeddwyd y don gyntaf o artistiaid Sesiwn Fawr Dolgellau 2024, sy'n cael ei chynnal dros benwythnos 18-21 Gorffennaf. 

Mi fydd yr ŵyl yn ymestyn dros bedwar diwrnod eleni gyda thocynnau ar gyfer llwyfannau’r Ship, Y Clwb Rygbi ac Eglwys y Santes Fair yn mynd ar werth ar wefan sesiwnfawr.cymru ar 1 Mawrth. 

Ymhlith yr artistiaid cerddorol fydd yn ymddangos ar brif lwyfan y Sesiwn Fawr yng Ngwesty’r Ship mae Eden, Cowbois Rhos Botwnnog, The Trials of Cato, MR, Mared, Vrï; y cerddor gwerin o Lydaw, David Pasquet; a’r ddeuawd o Lundain â dylanwad Affricanaidd, Raz + Afla. 

Bydd Lo-fi Jones, band buddugol Brwydr y Bandiau Gwerin Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, yn agor prif lwyfan y Ship ar nos Sadwrn 20 Gorffennaf fel rhan o wobr y gystadleuaeth.

Bydd Meinir Gwilym a Pedair yn agor y Sesiwn Fawr yn Eglwys y Santes Fair ar nos Iau 18 Gorffennaf dan nawdd Coleg Meirion Dwyfor; ac bydd Al Lewis a Plu yn cloi’r ŵyl yn yr Eglwys ar y nos Sul (21 Gorffennaf). 

Bydd modd prynu tocyn unigol ar gyfer gig nos Wener a nos Sadwrn y Clwb Rygbia mwynhau setiau gan Celt a Pys Melyn yn ogystal ag artistiaid cyffrous newydd i’r sîn fel Buddug a Dadleoli. 

Yn driw i wreiddiau’r ŵyl, mi fydd modd i fynychwyr fwynhau llwyfannau llai’r Sesiwn ar y prynhawn Sadwrn, yn y Sgwâr a thu allan i amrywiol dafarndai'r dref. 

Bydd rhaglen o sesiynau llên yn cynnwys sgyrsiau gyda’r awduron lleol Manon Steffan Ros a Clare Mackintosh, a hel atgofion hefo Barry ‘Archie’ Jones o fand Celt yn dilyn cyhoeddi ei lyfr, ‘Rhwng Bethlehem a’r groes’. 

Bydd y ‘Pentref Plant’ yn ôl i gynnig adloniant i blant a theuluoedd ar y prynhawn Sadwrn gyda sesiynau crefft, helfa offerynnau, sgiliau syrcas, pypedau, paentio wynebau a llawer mwy. 

Meddai Melda Lois, artist lleol i’r ŵyl a fydd yn perfformio ar brif lwyfan y Ship yn y Sesiwn Fawr am y tro cyntaf eleni:

“Dwi’n hynod ddiolchgar o gael y llwyfan a’r cyfle i brofi’r Sesiwn mewn ffordd newydd eleni. Mae’r Sesiwn Fawr yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddorol yma yng Nghymru ac mae cael y cyfle i berfformio yma ar ôl bod yn rhan o’r gynulleidfa ers sawl blwyddyn yn rhywbeth sbesial iawn.”

Meddai Ywain Myfyr, Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, ac un o sylfaenwyr yr ŵyl: 

“Ein prif nod fel trefnwyr yw adeiladau ar lwyddiant yr ŵyl o flwyddyn i flwyddyn. Mi wnaeth tocynnau Sesiwn Fawr werthu’n gynt nag erioed yn 2023, ac rydym ni’n disgwyl y byddent yn gwerthu yr un mor gyflym eleni - felly gosodwch eich clociau ‘larwm at Fawrth y cyntaf, da chi!

“Mi ydan ni’n benderfynol o barhau i gynnal naws groesawgar a chynwysol y Sesiwn, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i artistiaid newydd a lleol fel ei gilydd. Rydym ni fel criw yn edrych ymlaen yn eiddgar at wahodd cynulleidfa newydd yn ogystal â hen ffrindiau i Ddolgellau ym mis Gorffennaf.”

Bydd rhaglen lawn Sesiwn Fawr Dolgellau 2024 yn cael ei chyhoeddi yn nes at yr ŵyl. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.sesiwfawr.cymru a chyfryngau cymdeithasol Sesiwn Fawr Dolgellau @sesiwnfawr / #SesiwnFawr #SFD24

Mwy

GWELD POPETH

£19m i ddiogelu sector twristiaeth Gogledd Cymru at y dyfodol 

Cyswllt Ffermio yn chwilio am arweinydd eithriadol i arwain rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth

Môn yn arwain y ffordd wrth fesur defnydd iaith

  • Popeth6397
  • Newyddion
    5966
  • Addysg
    2139
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1650
  • Celfyddydau
    1466
  • Amgylchedd
    1021
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    693
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    576
  • Amaethyddiaeth
    518
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    184
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    86
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3