Daniel Grant yn lansio ei gwmni dillad cynaliadwy, Pen Wiwar
Ebrill 15, 2024
Ar ôl derbyn cefnogaeth ariannol o £2000 a mynychu 10 wythnos o sesiynau hyfforddiant busnes drwy brosiect Llwyddo’n Lleol, mae Daniel Grant yn lansio ei gwmni dillad cynaliadwy, Pen Wiwar.
Fe ymgeisiodd Daniel Grant o Felinheli am gefnogaeth drwy elfen Mentro, Llwyddo’n Lleol, gyda’r nod o ddatblygu ei sgiliau byd busnes a chael cymorth i sefydlu cwmni dillad cynaliadwy yng Ngwynedd.
Mae gwaith Daniel wedi’i ysbrydoli gan natur a’r awyr agored yng ngogledd Cymru ac adlewyrchir hynny yn enw’r cwmni, Pen Wiwar.