Cynllun i ehangu bioamrywiaeth ar draws coridor gwyrdd newydd Môn
Mehefin 12, 2025
Dan faner Glasffordd Môn, bydd y coridor yn llwybr cerdded a beicio aml bwrpas sy'n ymestyn o Niwbwrch yn ne'r ynys i Amlwch yn y gogledd. Nod y prosiect yw cefnogi byd natur, gwella cynefinoedd, a chyfoethogi'r amgylchedd naturiol ar draws Ynys Môn.
Mae’r astudiaeth, sydd wedi canolbwyntio ar adran ddeheuol Glasffordd Môn, wedi datgelu ystod amrywiol o gynefinoedd ar hyd y llwybr, gan gynnwys glaswelltiroedd, llwyni, coetiroedd, a gwlyptiroedd. Mae’r cynefinoedd hyn yn cefnogi nifer o rywogaethau sydd wedi eu gwarchod, megis adar sy’n nythu, ystlumod sy’n clwydo ac yn mudo, ymlusgiaid, dyfrgwn, a sawl rhywogaeth o infertebratau daearol.
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Prif nod yr astudiaeth oedd dod o hyd i ffyrdd lle gall bioamrywiaeth, cynefinoedd, a chymunedau lleol weld budd o ddatblygu coridor gwyrdd newydd. Fel rhan o’r astudiaeth cafodd y cyhoedd eu gwahodd i rannu eu barn trwy ateb holiadur a chymryd rhan mewn gweithdy.
“Mae'r argymhellion yn cynnwys plannu rhywogaethau brodorol, creu cyrff dŵr, gwella ansawdd dŵr, a rheoli cynefinoedd a rhywogaethau. Roedd pwyslais hefyd ar gynigion penodol fel hadu blodau gwyllt, plannu coed, a gosod bocys nythu ar gyfer adar ac ystlumod.
“Roedd yr astudiaeth hefyd yn gyfle i ddangos pwysigrwydd cynnwys cymunedau lleol wrth gyflawni prosiectau sy’n ehangu bioamrywiaeth.”
Ychwanegodd Cadeirydd Glasffordd Môn, Dr Wyn Morgan: “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â mwy na chysylltedd – mae’n ymwneud â diogelu a dathlu treftadaeth naturiol unigryw Ynys Môn. Bydd Glasffordd Môn yn enghraifft fyw o sut y gall teithio cynaliadwy a bioamrywiaeth fynd law yn llaw.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bartner allweddol yn natblygiad Glasffordd Môn. Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru CNC: “Mae Glasffordd Môn yn dod â gweledigaeth ein cynllun corfforaethol yn fyw – lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda'i gilydd. Bydd yn gwella ein cynefinoedd presennol, hybu cysylltedd i fyd natur, ac yn darparu ffyrdd o deithio sy’n fwy gwyrdd a diogel i gymunedau.
“Trwy gysylltu ardaloedd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Gwarchodfa Natur Nant y Pandy a RSPB Cors Ddyga, mae'n agor mynediad i fannau gwyrdd braf. Mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol a swyddi, gan greu cyfleoedd newydd i dwristiaeth gynaliadwy.
“Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gallwn ni gysylltu pobl gyda natur wrth ddiogelu a gwella’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Y weledigaeth ar gyfer Glasffordd Môn yw creu llwybr canolog ar draws yr ynys a allai weithredu fel asgwrn cefn rhwydwaith ehangach o lwybrau o ansawdd uchel ar draws Ynys Môn a’r Fenai. Mae’r cyhoeddiad diweddar sy’n nodi bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi sicrhau cyllid i ymestyn Lôn Las Cefni o Malltraeth i Niwbwrch yn cael ei ystyried yn gam pwysig i wireddu’r weledigaeth hon.
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3