Cyngor Môn eisiau cefnogaeth Llywodraeth Genedlaethol am gais Porthladd Rhydd

Tachwedd 24, 2022

Gall sicrhau statws porthladd rhydd sicrhau newidiadau trawsnewidiol, go iawn ar gyfer cymunedau ledled Ynys Môn a’r rhanbarth ehangach yng Ngogledd Cymru.

Caiff y cais Porthladd Rhydd hollbwysig ar gyfer Ynys Môn ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yfory (Dydd Iau, 24 Tachwedd).

Wedi’i ddatblygu ar y cyd gan Gyngor Sir Ynys Môn a Stena Line – perchnogion Porthladd Caergybi ac yn gyflogwr sylweddol yn lleol ers 27 mlynedd – mae ganddo’r potensial i roi hwb i’r economi leol, ranbarthol a chenedlaethol a hynny yn ystod cyfnod ansicr.  

Mae Porthladdoedd Rhydd yn tynnu’r rhwystrau masnachu ac yn darparu hawddfreintiau sy’n symleiddio’r ffordd y gall busnesau weithredu. Yn ôl amcangyfrifon modelu cychwynnol, byddai’r porthladd rhydd yn denu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad sydd wir ei angen a fyddai’n cynnwys swyddi cyflogau uchel a thua 3,500 i 13,000 ar draws y rhanbarth.

Mae’r Cyngor Sir wedi gofyn i’r ddwy Lywodraeth am eu cefnogaeth yn ei lythyr o gefnogaeth ei hun dros y cais uchelgeisiol.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dylan J Williams, “Mae gennym berthynas hir ag aeddfed gyda Stena Line a rydym yn falch o fod wedi gallu gweithio ochr yn ochr gyda’r cwmni er mwyn paratoi’r cais porthladd rhydd pwysig hwn. Credwn y gall ddarparu gwir newid, trawsnewidiol i gymunedau Ynys Môn a gweddill gogledd Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig fel Caergybi, sy’n gartref i’r ail borthladd rowlio ‘mlaen / rowlio ffwrdd yn y wlad.” 

“Mae’r Cyngor Sir yn gwbl gefnogol i amcanion y cais sydd â’r potensial i greu buddsoddiadau newydd sylweddol a sicrhau ffynonellau arian ychwanegol er mwyn gallu datblygu isadeiledd newydd na fyddai ar gael fel arall.”

Ychwanegodd, “Yn bwysicaf oll, byddem yn gweld buddion cymdeithasol-economaidd ynghyd â chyfleoedd cadwyn gyflenwi a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc er mwyn gallu eu cadw yn Ynys Môn a chynnal cymunedau lleol.” 

Byddai statws porthladd rhydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i Raglen Ynys Ynni'r Cyngor Sir - sydd â’r bwriad o weithredu fel hwb ar gyfer ymchwil ynni carbon isel a datblygiad, cynhyrchiant arloesol a gwasanaethu - ac mae’n cefnogi targed uchelgeisiol y Cyngor o gyflawni ei darged sero net erbyn 2030. 

Mae Ynys Môn wedi dioddef diffyg twf ac wedi colli nifer o swyddi dros nifer o flynyddoedd wrth i gannoedd o swyddi cyflogau da, a oedd yn arfer bod yn swyddi diogel, ddiflannu o nifer o sectorau.

Gallai statws porthladd rhydd helpu i atal y dirywiad hwn yn ein cymunedau gan sicrhau na fyddai’n rhaid i bobl ifanc yn enwedig adael eu cymunedau i chwilio am waith a fyddai yn ei dro yn ehangu ac yn cryfhau’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yma ar yr Ynys.

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r deilydd portffolio Datblygiad Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Rydym yn falch iawn o’r posibilrwydd y gallai swyddi newydd gael eu creu a’r cyfleoedd buddsoddi y gallai statws Porthladd Rhydd eu sicrhau. 

“Byddai porthladd rhydd yn elfen allweddol er mwyn gallu sicrhau datblygiadau economaidd cynaliadwy a hirdymor yma ar yr Ynys ac ar draws y rhanbarth. Mae gormod o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn teimlo bod angen iddynt adael yr Ynys er mwyn cael swyddi da a dyfodol disglair. Rydym eisiau newid hyn ac mae posib gwneud hynny.” 

Ychwanegodd, “Er mwyn gwneud hyn mae angen y buddsoddiadau y byddai cais Porthladd Rhydd yn eu sicrhau er mwyn adfywio’r economi leol mewn modd cynaliadwy, tymor hir. Bydd hyn yn sicrhau cymunedau sy’n iach, yn ffynnu ac yn llewyrchus ynghyd â chadw’r iaith Gymraeg yn fyw ar yr Ynys. Dyma’r allwedd i ddyfodol sefydlog i bobl Ynys Môn ac yn wir, gogledd Cymru.” 

Mae’r cais Porthladd Rhydd yn cael ei gefnogi gan 17 o fusnesau mawr o amrywiaeth o wahanol sectorau a diwydiannau yn cynnwys Rolls Royce, Bechtel a Last Energy ynghyd â phartneriaid addysgol mawr megis Prifysgol Bangor. Gobeithir hefyd y byddai hyn yn arwain at sefydliad parth tollau diogel yng Nghaergybi ac ar safleoedd eraill yn Ynys Môn wrth i drefniadau treth a thollau arbennig geisio denu buddsoddiadau domestig a rhyngwladol.

Gofynnir i’r cyhoedd rŵan ddod ynghyd tu ôl i’r cais a dangos eu cefnogaeth i’r cyfle unwaith mewn oes hwn i’r rhanbarth a hynny drwy gofrestru eu cefnogaeth drwy fynd ihttps://angleseyfreeport.co.uk/home-w/  

Mwy

GWELD POPETH

Cwmni Castell Howell yn darparu bwydlen gynaliadwy yng nghinio Nuffield

UAC yn cefnogi tîm pêl-droed Cymru drwy lansio sticer arbennig ar fêls

Dr Catrin Edwards yw Cadeirydd newydd y Mudiad Meithrin

  • Popeth6065
  • Newyddion
    5683
  • Addysg
    2097
  • Hamdden
    1853
  • Iaith
    1606
  • Celfyddydau
    1435
  • Amgylchedd
    992
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    670
  • Llenyddiaeth
    644
  • Cerddoriaeth
    592
  • Arian a Busnes
    521
  • Amaethyddiaeth
    459
  • Bwyd
    420
  • Chwaraeon
    354
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    302
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    268
  • Ar-lein
    260
  • Eisteddfod yr Urdd
    153
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    59
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Papurau Bro
    13
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Teledu
    5
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3