Cynghrair Strategol Newydd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Awst 09, 2023

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cytuno i sefydlu  Cynghrair Strategol newydd rhyngddynt er mwyn gwella cyfleoedd cydweithio a chynyddu traweffaith gadarnhaol dros sawl maes gweithgaredd er budd i Gymru.

Cyhoeddir sefydlu’r Gynghrair Strategol mewn digwyddiad arbennig ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Iau 10fed Awst am 1.30pm. 

Mae'r rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:

- Datblygu a Rhannu sgiliau'r Gweithlu;
- Arloesedd Digidol a Seilwaith Digidol;
- Cwricwlwm ac Adnoddau Addysgol;
- Datblygu Ymchwil a'r Casgliadau.

Mae’r partneriaid eisoes yn cydweithio ar gyfres o brosiectau ymchwil, addysg ac ymgysylltu drwy’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gan gynnwys prosiectau hir dymor fel   Y Bywgraffiadur Cymreig a’r cynllun arloesol i gyd-gyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800-c.1800  a lansiwyd  yn 2022 gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford mewn cynhadledd arbennig.

Llofnododd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd  Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Athro Pedr ap Llwyd FLSW, ac Is-Ganghellor y Prifysgolion, yr Athro Medwin Hughes, CBE, DL, y Memorandwm Cytundeb rhwng y sefydliadau ar gampws Llambed, Prifysgol Cymru Y  Drindod Dewi Sant Llambed mewn cyfarfod arbennig ym mis Gorffennaf.