Cymro o Gaerfyrddin yn creu llwyfan digidol arloesol i wella addysg cyfrwng Gymraeg

Tachwedd 28, 2024

Mae’r profiad o fyw gyda dyslecsia ac ADHD yn golygu bod Osian Wyn Evans o Flaenycoed yn Sir Gaerfyrddin, wastad wedi teimlo ei fod ‘ar ei hol hi’. Er yr heriau, ers 25 mlynedd mae Osian wedi cael gyrfa lwyddiannus fel peirianydd meddalwedd.

Eleni, lansiodd Osian ei fusnes ‘Goiawn’, a gyda’i bencadlys yng Nghanolfan yr Egin, Caerfyrddin, ei fwriad yw defnyddio’i arbenigedd yn y maes digidol i drawsnewid profiadau plant mewn addysg Gymraeg.

“Fel unigolyn ac fel Tad, dwi wedi profi pa mor heriol yw addysg Gymraeg. Mae’r adroddiadau cenedlaethol yn dangos bod gostyngiad yn lefelau cyrhaeddiad plant 7 i 11, mae’n plant ni ar ei hol hi, ond nid eu bai nhw a’r athrawon yw hyn. Mae adnoddau addysgol Cymraeg yn hen ffasiwn, dydyn nhw ddim yn ysbrydoli’r plant, does dim byd ‘cŵl’ iddynt ar-lein. Mae’n nhw a’r athrawon yn gorfod troi at adnoddau Saesneg a ‘dyw hynny ddim yn ddigon da. Mae Goiawn yma i newid pethe.”

Er mwyn hybu llythrennedd plant mewn addysg Gymraeg, mae Goiawn yn datblygu Antur Amser, pecyn a llwyfan dysgu arloesol sy’n canolbwyntio ar ddysgu trwy stori ac adnoddau digidol. Bydd pecynnau Antur Amser ar gyfer yr ystafell ddosbarth, yn cynnwys llyfrau darllen gwreiddiol a chyfoes, gweithgareddau digidol, gemau aml chwaraewr ar-lein a gweithgareddau ar bapur. Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf bydd Antur Amser yn dod â’r pwnc â’r iaith Gymraeg yn fyw i blant, mewn dull aml blatfform ac adlonianol sy’n apelgar iddyn nhw. 

Fel rhan o’r cynllun peilot sydd wedi’i ariannu trwy Gronfa Her ARFOR, mae Goiawn yn cydweithio gyda arbenigwyr iaith a llythrennedd a phartneriaid sy’n angerddol am hybu’r iaith ymhlith plant, gan gynnwys y Golygydd Eiry Miles, Yr Urdd, Peniarth, Mentrau Iaith Cymru ac athrawon cynradd. 

Yn ystod mis Rhagfyr bydd pecyn peilot Antur Amser; ‘Y Fideo Diogelwch’ yn cael ei dreilau mewn 100 o ysgolion cynradd yn Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd a Môn. Bydd yr ail becyn sef ‘Harlech 1404’ yn cael ei dreilau mewn digwyddiadau cyhoeddus mewn llyfrgelloedd ymhob un o siroedd ARFOR o’r 30ain o Dachwedd, er mwyn cael adborth rhieni a phlant tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

“Mae’n hollbwysig cydweithio gyda phlant wrth greu adnoddau iddyn nhw. Mae plant mor gyfarwydd â mynd ar ffonau a sgrins i gyfathrebu, chwarae gemau a gwylio cynnwys, mae eu syniadau a’i adborth nhw yn hollbwysig inni er mwyn sicrhau eu bod nhw â’r Gymraeg yn ffynnu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt. Bydd Antur Amser yn cyfoethogi addysg Gymraeg, ac yn sicrhau dyfodol disglair i’n plant ac i’r iaith.”   

Mwy

GWELD POPETH

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • Popeth6424
  • Newyddion
    5991
  • Addysg
    2141
  • Hamdden
    1870
  • Iaith
    1656
  • Celfyddydau
    1469
  • Amgylchedd
    1026
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    694
  • Llenyddiaeth
    646
  • Cerddoriaeth
    606
  • Arian a Busnes
    580
  • Amaethyddiaeth
    523
  • Bwyd
    457
  • Chwaraeon
    370
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    329
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    286
  • Ar-lein
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    91
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    11
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    4
  • Llythyron
    3