Cymeradwyo cynllun LPWAN i helpu cysylltedd digidol
Awst 29, 2024
Mae buddsoddiad LPWAN yn elfen allweddol o’r prosiect Campysau Cysylltiedig ehangach dan Raglen Ddigidol y Cynllun Twf. Ei nod yw cyflawni gwelliannau seilwaith a fydd yn cryfhau technoleg ddiwifr a’r modd y caiff ei defnyddio ar draws y rhanbarth. Mae LPWAN yn darparu cysylltedd diwifr pŵer isel dros bellteroedd hir, gan alluogi cysylltu ystod eang o ddyfeisiau a synwyryddion yn gost effeithiol.
Bydd y fenter yn canolbwyntio ar gwmpas presennol math o dechnoleg LPWAN, Rhwydwaith Ardal Eang Ystod Hir (LoRaWAN), i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus trwy ragor o ddefnydd o’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ (Internet of Things - IoT). Bydd mynediad i'r rhwydwaith hefyd yn galluogi i fusnesau archwilio cyfleoedd ar gyfer arloesi, gan ddefnyddio ystod eang o synwyryddion a dyfeisiau. Mae ehangu’r cwmpas yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru, drwy gefnogi arloesedd gan ddefnyddio IoT a thechnolegau rhwydwaith diwifr. Erbyn 2027, nod y prosiect yw darparu cysylltedd hygyrch ar draws chwe sir Gogledd Cymru.
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cysylltedd Digidol ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Nod prosiect Campysau Cysylltiedig yw datblygu’r rhanbarth yn ganolbwynt arloesi digidol. Mae cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer LPWAN yn rhan bwysig o hyn. Hoffwn ddiolch i’r swyddogion sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd hyd yma, gan sicrhau bod y prosiect hefyd yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygiadau economaidd a thechnolegol pellach.
“Mae’r fenter wedi’i chynllunio er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio ar y dechnoleg diwedaraf ac annog busnesau i dreialu ffyrdd newydd o weithio. Mae manteision LPWAN eisoes wedi’u dangos drwy brosiect SMART Gwynedd a Môn, sy’n defnyddio data i lywio penderfyniadau ynghylch adfywio’r stryd fawr. Mae cynghorau megis Wrecsam, wedi bod yn ymchwilio i’r potensial ar gyfer y dechnoleg hefyd, gyda nod clir i gefnogi darparu gwasanaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer Trefi SMART”
Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae cael cysylltiad gwell yn hanfodol ar gyfer bob un ohonom ni. Mae’n dda gweld bod y Cynllun Twf yn cefnogi’r prosiect hwn a fydd yn helpu’r rhanbarth i adeiladu ar ei gryfderau presennol i ddod yn ganolbwynt arloesi digidol, gan gynnwys y gwaith sydd wedi’i wneud eisoes yng Nghonwy, Gwynedd a Wrecsam gyda thechnoleg LoRaWan.”
Y gobaith yw y bydd buddsoddiad LPWAN yn cefnogi creu swyddi trwy gydol ei gyflawniad erbyn 2032, ac yn galluogi gwelliannau o ran darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
- Popeth6424
-
Newyddion
5991
-
Addysg
2141
-
Hamdden
1870
-
Iaith
1656
-
Celfyddydau
1469
-
Amgylchedd
1026
-
Gwleidyddiaeth
932
-
Iechyd
694
-
Llenyddiaeth
646
-
Cerddoriaeth
606
-
Arian a Busnes
580
-
Amaethyddiaeth
523
-
Bwyd
457
-
Chwaraeon
370
-
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
329
-
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
286
-
Ar-lein
261
-
Eisteddfod yr Urdd
193
-
Hyfforddiant / Cyrsiau
91
-
Cystadlaethau
47
-
Barn
16
-
Papurau Bro
14
-
Adolygiadau Llyfrau
13
-
Teledu
11
-
Adolygiadau Cerddoriaeth
6
-
Sioe Frenhinol Cymru
4
-
Llythyron
3