Cymeradwyo cais am arian sylweddol i adfywio Caergybi

Ionawr 22, 2023

Mae cais am arian sylweddol fydd yn helpu i adfywio canol tref Caergybi ac yn hybu ei ffyniant wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU.

Cyflwynodd Cyngor Sir Ynys Môn gais gwerth miliynau o bunnoedd i’r Gronfa Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) ym mis Awst 2022.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU heddiw (Dydd Iau, Ionawr 19eg) fod cais Caergybi ymysg y rhai llwyddiannus yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.

Bydd cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” yn helpu i atal dirywiad canol y dref a dod â’r balchder yn yr ardal yn ôl i drigolion. Bydd yn helpu i drawsnewid y dref drwy sicrhau gwerth £22.5 miliwn o fuddsoddiad, gan gynnwys £17 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro, a byddai’n darparu dros £54 miliwn o fuddion i’r gymuned leol.

Roedd y cais yn cynnwys pecyn cyffrous o brosiectau er mwyn cynyddu cyflogaeth; gwella’r hyn sydd gan ganol y dref i’w gynnig a gwella profiadau ymwelwyr; cynyddu’r nifer o bobl sy’n cerdded ac yn gwario yn y stryd fawr a darparu lleoliad modern er mwyn bodloni anghenion busnes a chynyddu mynediad i’r celfyddydau, diwylliant a hamdden.

Fel tref fwyaf yr Ynys, mae Caergybi yn cynnwys rhai o’r cymdogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd y cais llwyddiannus yn gweld asedau lleol allweddol yn cael eu hehangu er mwyn gwneud yr ardal yn well lle i fyw ac ymweld ag ef. 

Roedd cais Caergybi wedi’i alinio’n ofalus ag amcanion Papur Gwyn y Gronfa Ffyniant Bro ac fe’i hystyriwyd fel yr unig un oedd â chyfle realistig o dderbyn cefnogaeth ac o lwyddo yn y broses ymgeisio gystadleuol.  

Bu Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Caergybi, Môn CF, Canolfan Celfyddydau Ucheldre a’r Eglwys yng Nghymru i ddeall anghenion yr ardal a chyflwyno pecyn o ymyraethau yng Nghaergybi a’r cyffiniau.

Mae Dirprwy Arweinydd y Cyngor Sir a’r deilydd portffolio Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, wedi croesawu’r newyddion am y cais llwyddiannus i’r Gronfa Ffyniant Bro.

Dywedodd y Cyng Jones, “Mae hyn yn newyddion gwych i dref Caergybi, Ynys Cybi ac Ynys Môn. Roedd ein cais wedi’i ystyried yn ofalus gyda’r bwriadu o fanteisio ar gyfleoedd y Gronfa Ffyniant Bro, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau a chyfleoedd pobl leol.”

“Bu i ni weithio’n ofnadwy o agos gyda’n partneriaid am bron i flwyddyn i ddatblygu eu syniadau a pharatoi cais cryf fyddai’n bodloni holl ofynion Llywodraeth y DU.”

Ychwanegodd, “Mae’r cadarnhad heddiw gan Lywodraeth y DU yn gam mawr tuag at adfywiad Caergybi, gyda buddion yn lledu ar draws yr Ynys gyfan.”

Roedd Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn falch o hyrwyddo'r cais, a dywedodd, "Mae hon yn fuddugoliaeth anferthol i Gaergybi ac rwyf wrth fy modd bod arian Llywodraeth y DU yn dod i’n hynys ni i wneud gwir wahaniaeth i fywydau trigolion.”

“Bydd y £17 miliwn yma yn ein helpu ni i greu swyddi, buddsoddi a meithrin ymdeimlad o falchder cymdeithasol ac adfywiad diwylliannol. Ni allaf feddwl am unrhyw dref sydd yn fwy haeddiannol o’r cyfle hwn a’r cyfanswm o £54 miliwn o fuddion a ddaw yn ei sgil.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r cais, ond yn arbennig i Gyngor Tref Caergybi am ei ymrwymiad i’r prosiect. Drwy gydweithio rydym wedi cyflawni cymaint, a dylem ymfalchïo yn y bartneriaeth hon o gynghorau, gwleidyddion, busnesau, sefydliadau a’r sector preifat.”

Ychwanegodd, “Dyma wawr newydd i Gaergybi. Ni fydd yn llwyddo i leddfu pob un o’n heriau, ond bydd yn golygu y cawn gymryd camau breision i’r cyfeiriad cywir."

Mae’r Gronfa Ffyniant Bro yn rhaglen gyllid gystadleuol sy’n cael ei asesu a’i gweinyddu gan Lywodraeth y DU. Awdurdodau Lleol yw’r unig gyrff sy’n gallu cyflwyno ceisiadau i’r gronfa sy’n ymwneud â thair prif flaenoriaeth; cefnogi adfywiad canol trefi a’r stryd fawr, prosiectau trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol a threftadaeth.

Cafodd y cais “Caergybi: Trawsnewid o safbwynt diwylliant a threftadaeth” ei gyflwyno yn dilyn proses mynegiant o ddiddordeb cychwynnol ac yn dilyn rhoi ystyriaeth ofalus i’r meini prawf ariannu gan Lywodraeth y DU.  

Mwy

GWELD POPETH

Stori epig Branwen yn dod yn fyw ar lwyfannau ledled cymru mewn sioe gerdd gymraeg newydd

Cyhoeddi Arweinwyr FFIT Cymru 2023

Premier byd gwirfoddoli gyda'r Papurau Bro

  • Popeth6119
  • Newyddion
    5731
  • Addysg
    2103
  • Hamdden
    1856
  • Iaith
    1609
  • Celfyddydau
    1443
  • Amgylchedd
    994
  • Gwleidyddiaeth
    932
  • Iechyd
    675
  • Llenyddiaeth
    644
  • Cerddoriaeth
    597
  • Arian a Busnes
    533
  • Amaethyddiaeth
    468
  • Bwyd
    434
  • Chwaraeon
    357
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
    302
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    268
  • Ar-lein
    260
  • Eisteddfod yr Urdd
    153
  • Hyfforddiant / Cyrsiau
    65
  • Cystadlaethau
    47
  • Barn
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Adolygiadau Llyfrau
    13
  • Teledu
    7
  • Adolygiadau Cerddoriaeth
    6
  • Sioe Frenhinol Cymru
    3
  • Llythyron
    3